Caniatâd cynllunio - pryd i wneud cais
Os byddwch yn adeiladu rhywbeth y mae angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer heb gael caniatâd i ddechrau, efallai y byddwch yn gorfod unioni pethau yn ddiweddarach, a allai fod yn gostus ac yn helbulus. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch ag adran gynllunio eich cyngor.
Pryd mae angen i chi wneud cais
Dyma rai enghreifftiau cyffredin lle byddai angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio:
- ymestyn fflat neu fflat deulawr, neu ychwanegu atynt, gan gynnwys rhai sydd wedi cael eu trosi o dai
- rhannu rhan o'ch tŷ i'w ddefnyddio fel cartref ar wahân (er enghraifft, fflat neu fflat un ystafell hunangynhaliol)
- defnyddio adeilad neu garafán yn eich gardd fel preswylfan ar wahân ar gyfer rhywun arall
- adeiladu tŷ ar wahân yn eich gardd
- Rhannu rhan o'ch cartref ar gyfer dibenion busnes neu ddibenion masnachol (gweithdy, er enghraifft) neu ar gyfer adeiladu lle parcio ar gyfer cerbyd masnachol
- adeiladu rhywbeth sy'n mynd yn groes i delerau'r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich cartref (er enghraifft, efallai bod amod cynllunio wedi'i osod i'ch atal rhag gosod ffens yn yr ardd ffrynt oherwydd bod y tŷ ar ystâd "cynllun agored")
- efallai y bydd y gwaith rydych am ei wneud yn rhwystro pobl sy'n defnyddio'r ffordd rhag gweld
- byddai'r gwaith yn cynnwys mynediad newydd neu ehangach i gefnffordd neu i ffordd ddosbarthedig
Am ragor o gyngor ynghylch pryd y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio, ewch i wefan Porth Cynllunio. Gallwch hefyd drafod eich cynigion drwy gysylltu ag adran gynllunio eich cyngor.
Pryd nad oes angen i chi wneud cais
Gallwch wneud rhai mathau o newidiadau bychain i'ch cartref heb orfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio. Gelwir y rhain yn 'hawliau datblygu a ganiateir'.
Yn gyffredinol, nis oes angen Caniatâd Cynllunio ar gyfer y canlynol:
- newidiadau i'r tu mewn i adeiladau
- addasiadau bychan i'r tu allan, fel gosod cysylltiadau ffôn a blychau larwm
- newidiadau bychan eraill, er enghraifft, codi waliau a gosod ffensys dan uchder penodol
Ardaloedd o ddiddordeb arbennig
Mewn rhai ardaloedd, mae'r hawliau datblygu a ganiateir yn fwy cyfyngedig. Os ydych chi'n byw mewn adeilad rhestredig, mewn Ardal Gadwraeth, Parc Cenedlaethol, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol neu Lynnoedd Norfolk neu Suffolk, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o waith nad oes angen cais ar eu cyfer mewn ardaloedd eraill.
Porth Cynllunio
Mae gwefan y Porth Cynllunio'n darparu nifer o arfau a all fod yn ddefnyddiol pan fyddwch yn meddwl am wneud cais cynllunio:
- canllaw ar wneud cais ar-lein - bydd hyn yn darparu arweiniad drwy'r gwasanaeth gwneud cais ar-lein
- cyfrifydd ffioedd - mae hwn yn cyfrifo cost unrhyw gais cynllunio neilltuol
- cyfrifydd cyfaint - gall hwn eich helpu i bennu cyfaint adeilad, er enghraifft, os ydych yn ystyried codi adeilad newydd neu godi estyniad ar hen adeilad.