Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gweithredu cymunedol

Mae'r llywodraeth yn awyddus i unigolion a chymunedau gymryd rhan weithredol yn y broses gynllunio. I gael dweud eich dweud, rhaid ichi feddu ar wybodaeth, ynghyd â pharodrwydd i roi barn, naill ai fel unigolyn neu mewn grŵp.

Sut gallwch ddod yn rhan o’r broses gynllunio

Dan y gyfraith rhaid i gyrff cynllunio lleol a rhanbarthol baratoi datganiad ar gynnwys cymunedau. Mae'r rhain yn nodi'r polisi ar gyfer cynnwys y gymuned yn y gwaith o baratoi strategaethau gofodol rhanbarthol, dogfennau datblygu lleol ac ymgynghori ar geisiadau cynllunio. Mae pedair prif ffordd y gallwch ddod yn rhan o'r broses:

  • ceisiadau cynllunio
  • apeliadau
  • cynlluniau lleol a rhanbarthol
  • torri rheolaeth gynllunio

I gael rhagor o wybodaeth am weithredu cymunedol mewn cynllunio, ymwelwch â'r Porth Cynllunio.

Ceisiadau cynllunio

Os effeithir arnoch gan ddatblygiad newydd sydd yn yr arfaeth, efallai na fyddwch wedi clywed am y peth nes i'r datblygwr ymgynghori'n anffurfiol â chi gan eich bod yn un o'r cymdogion.

Ar ôl i'r cais cynllunio gael ei wneud, bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn gosod hysbysiadau gerllaw'r safle neu'n ysgrifennu llythyrau at y rhai sy'n byw agosaf at y datblygiad arfaethedig, gan ofyn am sylwadau.

Bydd datblygiadau mwy yn cael eu hysbysebu mewn papur newydd lleol hefyd. Bydd manylion y cynigion, gan gynnwys lluniadau penseiri a modelau, ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd y cyngor.

Rhoi eich barn

Dim ond hyn a hyn o amser fydd gennych i anfon sylwadau at y swyddfa gynllunio leol. Mae'n bwysig iawn cwrdd ag unrhyw derfyn amser neu efallai na fydd eich sylwadau'n cael eu hystyried.

Gellir mynychu cyfarfodydd pwyllgorau sy'n delio gyda cheisiadau cynllunio. Mewn sawl achos, gall aelodau'r cyhoedd siarad yn fyr i sicrhau bod y pwyllgor yn ymwybodol o'u safbwyntiau.

Fodd bynnag, dim ond aelodau etholedig o'r cyngor sy'n gallu pleidleisio ar y cais ei hun.

Ar ôl y penderfyniad

Yng Nghymru a Lloegr, ni chaiff trydydd parti apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio lleol.

Er enghraifft, os cafodd eich cymydog ganiatâd i adeiladu estyniad, allech chi ddim apelio yn ei erbyn - hyd yn oed os oeddech wedi gwrthwynebu'r cais yn gynharach yn y broses.

Cwyno am geisiadau

Mewn rhai achosion, gellir cyfeirio cwynion ynghylch sut y bu i awdurdod cynllunio lleol ddelio gyda chais cynllunio at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol.

Apeliadau

Gellwch roi sylwadau ar ddau fath o apêl: apeliadau cynllunio ac apeliadau hysbysiadau gorfodi. I gael gwybod mwy am sut i roi sylwadau ar apeliadau, darllenwch yr erthyglau canlynol ar y Porth Cynllunio.

Torri rheolaeth gynllunio

Digwydd hyn fel arfer:

  • Pan fydd datblygiad y mae angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer yn digwydd heb gael y caniatâd hwnnw - naill ai oherwydd i'r cais cynllunio gael ei wrthod neu oherwydd na wnaethpwyd cais o gwbl amdano
  • Pan fydd datblygiad sydd wedi cael caniatâd gydag amodau yn torri un neu fwy o'r amodau hynny.

I gael gwybod mwy am dorri rheolaeth gynllunio a rhoi gwybod i'r awdurdodau am hynny, ymwelwch â'r Porth Cynllunio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU