Mae amrywiaeth eang o gyngor ar gael i'ch helpu chi ddod yn gysylltiedig â'r drefn gynllunio.
Eich Awdurdod Cynllunio Lleol sy'n gyfrifol am ddelio â cheisiadau am ganiatâd cynllunio yn eich ardal.
Mae Awdurdodau Cynllunio Lleol yn cyflogi cynllunwyr proffesiynol i'w cynghori wrth baratoi Cynlluniau Datblygu ar gyfer ardal ac wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio unigol. Mae'r swyddogion hyn yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth a chyngor lleol, a'r rhain ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf.
Os oes gennych ymholiad yn ymwneud â Chynllun Datblygu'r Awdurdod Cynllunio Lleol, gall swyddogion roi cyngor i chi fel arfer ar y canlynol:
Gallwch gysylltu â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol naill ai'n ysgrifenedig neu dros y ffôn, ac mewn rhai achosion drwy anfon e-bost - ceir manylion cyswllt yn y llyfr ffôn neu yn eich llyfrgell leol.
Fel arfer, gall swyddogion roi cyngor am faterion rheoli datblygu megis:
Mae llythyrau a chyhoeddusrwydd a anfonir gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol fel arfer yn cynnwys enw swyddog penodol i gysylltu ag ef/hi yn y lle cyntaf.
Dylech gofio bob amser fod swyddogion cynllunio'n cael eu cyflogi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol a gall hyn gyfyngu ar faint o gymorth y gallant ei ddarparu.
Gwefan y llywodraeth i ddinasyddion yw'r Porth Cynllunio ar gyfer materion cynllunio yng Nghymru a Lloegr. Gallwch ddefnyddio'r Porth Cynllunio i wneud y canlynol:
Mae gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol gyfeiriadur o dros 1,000 o ymgynghorwyr cynllunio sy'n cynnig gwasanaeth Cynllunydd Tref Siartredig. Mae'r rhain yn darparu amrediad o wasanaethau sy'n gysylltiedig â chynllunio y telir amdanynt megis:
Gall ymgynghorwyr cynllunio gynnig ystod eang o sgiliau arbenigol a chyngor diduedd a gallant ddarparu esboniadau syml ac effeithiol ynghylch sefyllfaoedd cynllunio. Gallant hefyd weithredu fel pont rhwng partïon â diddordeb, gan helpu i egluro'r pryderon.
Mae cyfeiriadur o ymgynghorwyr cynllunio ar gael ar wefan y Sefydliad Cynllunio Tref Brenhinol ynghyd ag arweiniad ar ddefnyddio ymgynghorwyr.
Elusen gofrestredig yw Planning Aid sy'n darparu cyngor a chymorth proffesiynol, annibynnol a di-dâl ar faterion cynllunio i grwpiau cymunedol ac unigolion nad ydynt yn gallu fforddio cyflogi ymgynghorydd cynllunio.