Os yw coeden yn bwysig, gall eich cyngor wneud cais am Orchymyn Cadw Coed (Tree Preservation Order) i'w roi ar y goeden. Yma, cewch wybod mwy am y Gorchmynion hyn a chael caniatâd i wneud gwaith ar goeden sydd wedi'i gwarchod.
Mae coed a gwrychoedd yn elfen allweddol o'n cefn gwald, ond maent yn chwarae rhan bwysig mewn ardaloedd trefol hefyd. Mae coed a gwrychoedd mewn gerddi preifat, parciau a mannau agored eraill, neu rai sydd ar ochrau strydoedd, rheilffyrdd, afonydd a chamlesi yn bwysig iawn i bobl, yn enwedig mewn ardaloedd preswyl.
Gallant hefyd ddarparu cynefinoedd gwerthfawr i fywyd gwyllt, gwella'r aer a anadlwn a helpu i arbed ynni mewn adeiladau cyfagos.
Gellir gwarchod coed gyda Gorchmynion Cadw Coed neu reolau cyfreithiol eraill er mwyn sicrhau na fyddant yn cael eu difrodi yn ddifeddwl ac na fydd neb yn cael gwared arnynt mewn camgymeriad.
Gall eich cyngor lleol roi Gorchymyn Cadw Coed ar gyfer coed penodol. Os gwarchodir coeden gan Orchymyn Cadw Coed rhaid cael caniatâd y cyngor cyn y caiff ei thorri neu ei thocio. Bydd coed a leolir mewn ardaloedd cadwraeth hefyd yn cael rhywfaint o warchodaeth. Dylech gysylltu â'ch cyngor lleol i holi a yw coeden wedi'i gwarchod ai peidio.
Ceir cyflwyniad i'r system Gorchymyn Cadw Coed yn y daflen 'Protected Trees:A Guide to Tree Preservation Procedures'. Ynddo, ceir atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir gan berchnogion coed ac aelodau'r cyhoedd. Gallwch lwytho'r daflen oddi ar y we drwy glicio ar y ddolen isod neu gael copi caled o'r daflen drwy ffonio'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol - Llenyddiaeth Am Ddim ar 0870 1226 236.
Ceir cyfarwyddyd manylach a mwy cynhwysfawr wrth ymweld â gwefan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a throi at yr adran Gorchmynion Cadw Coed: Canllaw i'r Gyfraith ac Arfer Da. Gallwch gael copi caled o'r canllawiau (sy'n costio £8) gan Ganolfan Gwerthu Cyhoeddiadau'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol drwy ffonio 0870 1226 236.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.