Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Fframweithiau datblygu lleol

Mae'r drefn gynllunio yng Nghymru a Lloegr yn seiliedig ar gynlluniau. Mae hyn yn golygu bod awdurdodau cynllunio'n creu cynlluniau gofodol tymor hir ar gyfer datblygu ardaloedd. Unwaith y mabwysiedir y cynlluniau hyn, rhaid i bob penderfyniad cynllunio a wneir gan awdurdodau lleol ddilyn y cynllun ar gyfer yr ardal, oni bai fod ystyriaethau eraill o bwys yn berthnasol.

Fframweithiau Datblygu Lleol

Mae Fframweithiau Datblygu Lleol wrth graidd sut y rheolir cynllunio'n lleol yn eich ardal chi. Maent yn rhan allweddol o system newydd y llywodraeth sy'n seiliedig ar gynlluniau.

Rhai o elfennau pwysicaf y Fframwaith Datblygu Lleol yw ffolder o ddogfennau sy'n cynnwys:

Dogfennau datblygu lleol

Y rhain fydd hanfod cynllun datblygu eich ardal ac maen nhw'n amlinellu pa fath o ddatblygiad fydd, sut y caiff ei reoli a pha bryd y bydd yn digwydd.

Cynllun datblygu lleol

Math o gynllun prosiect ar gyfer y Fframwaith Datblygu lleol sy'n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cynhyrchu'r Fframwaith. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn fap o fath ar gyfer dogfennau'r Fframwaith Datblygu Lleol a ddaw i rym.

Datganiad cynnwys cymunedau

Mae hyn yn esbonio sut y bydd yr awdurdod lleol yn cynnwys y gymuned wrth ddatblygu'r Fframwaith Datblygu Lleol.

Yn ychwanegol, dylai’r Fframwaith Datblygu lleol am eich ardal gydymffurfio i’r cynlluniau gofodol strategol am eich ardal (fel Gogledd-Ddwyrain Lloegr, De-orllewin Lloegr, Llundain ayb).  Gallwch ddysgu mwy am Fframweithiau Datblygu Lleol ar y Porth Cynllunio.

Strategaethau Gofodol Rhanbarthol

Rheolir materion cynllunio rhanbarth gan gorff cynllunio rhanbarthol. Rhaid i bob corff cynllunio rhanbarthol gynhyrchu Strategaeth Ofodol Ranbarthol sy'n amlinellu'r cynlluniau gofodol ar gyfer yr ardal ac yn bwydo i'r cynllun lleol.

Bydd y Strategaeth hon yn nodi pethau megis faint o dai sydd eu hangen i ateb gofynion pobl y rhanbarth yn y dyfodol, neu a oes angen canolfan siopa fawr newydd neu faes awyr ar y rhanbarth.

Mae Strategaeth fel hyn yn nodi sut y dylai strategaeth ar gyfer rhanbarth edrych ymhen 15 i 20 mlynedd ac o bosib y tu hwnt i hynny.

Mae'r Strategaeth yn nodi ar ba raddfa y datblygir tai newydd yn y rhanbarth a sut y'u dosberthir. Mae hefyd yn cynnig pa ardaloedd y dylid eu hadfywio a'u hehangu. Mae hefyd yn rhestru blaenoriaethau ar gyfer yr amgylchedd, trafnidiaeth, seilwaith, datblygu economaidd, amaethyddiaeth, mwynau a thrin a gwaredu gwastraff.

Allweddumynediad llywodraeth y DU