Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Apelio - penderfyniadau ail-gartrefu a dyrannu tai

Gallwch ofyn i'ch cyngor adolygu penderfyniad i'ch trin fel person anghymwys, os na roddwyd ffafriaeth i chi dan y cynllun, oherwydd "ymddygiad annerbyniol". Dyma ymddygiad sy'n ddigon difrifol i wneud person yn anaddas i fod yn denant i'r awdurdod tai.

Sut i wneud cais am arolygiad

Os teimlwch fod y penderfyniad yn anghywir, rhaid i chi anfon llythyr at y cyngor. Bydd uwch swyddog nad oedd yn gysylltiedig â'r penderfyniad gwreiddiol yn adolygu'ch achos a chewch wybod trwy lythyr am ganlyniad yr adolygiad.

Gallwch ofyn i'r cyngor edrych ar eich cais eto ac adolygu'i benderfyniad os teimlwch fod ei benderfyniad gwreiddiol yn anghywir. Efallai y byddai'n werth i chi wneud hyn os ydych yn meddwl nad oedd eich ymddygiad yn ddigon difrifol i olygu nad ydych yn gymwys. Neu os gallwch ddangos eich bod wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r sefyllfa neu wneud yn siur nad ydy'r ymddygiad yn digwydd eto.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Gwneud cais newydd

Os bydd eich amgylchiadau'n newid, gallwch wneud cais newydd. Er enghraifft:

  • gall eich statws mewnfudo newid ar ôl cyfnod penodol yn y DU
  • rydych wedi pasio cyfnod prawf yn llwyddiannus ar ôl unrhyw ymddygiad annerbyniol

Gwneud cwyn

Mae gan bob cyngor drefn gwyno sy'n debygol o gynnwys amser penodol o fewn yr hwn y bydd yn rhaid iddynt ymateb i'ch pryderon. Os teimlwch na chafodd eich cwyn y sylw priodol, gallwch gysylltu â'r Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Mae'r Ombwdsmon yn ymchwilio i gwynion am y rhan fwyaf o faterion sy'n ymwneud â chynghorau, gan gynnwys tai, cynllunio, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a threth gyngor.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU