Gall eich cyngor lleol ddyrannu lle i chi drwy gyfrwng tenantiaeth ddiogel gan ddefnyddio ei stoc o dai cyngor. Hefyd, gall cynghorau enwebu rhywun i fod yn denant sicr i gymdeithas dai.
Rhaid i gyngor gael cynllun dyrannu sy'n gosod y blaenoriaethau a'r drefn ar gyfer dyrannu tai.
Bydd y cyngor:
Dan system ddyrannu draddodiadol, sydd fel arfer yn seiliedig ar bwyntiau, bydd y cyngor yn asesu anghenion tai yr ymgeisydd, yn pennu ei flaenoriaeth ac yn cynnig llety addas i'r teulu gyda'r nifer fwyaf o bwyntiau.
Gall ymgeiswyr ddatgan eu bod yn ffafrio math arbennig o eiddo neu ardal/ardaloedd lle'r hoffent fyw a bydd y cyngor yn gwneud ei orau i ystyried hyn wrth gynnig eiddo iddynt. Os cynigir llety i chi a chithau'n gwrthod, bydd hynny'n aml yn arwain at gosb, er enghraifft cael eich tynnu oddi ar y rhestr aros am gyfnod o amser.
Gellir diffinio cartref yn un "anodd ei osod"
, lle mae tri chynnig wedi cael eu gwrthod neu os nad oes tenantiaid addas ar gael yn yr ardal leol. Bydd eich cyngor lleol yn hysbysebu eiddo sy'n anodd eu gosod gan chwilio'n ddiwyd am rywun i fyw ynddynt. Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd eisoes ar y gofrestr dai.
Gallwch gysylltu â swyddfa dai eich cyngor lleol yn uniongyrchol a gofyn iddynt am eu trefn a'u polisi dyrannu.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Nid yw'r ffaith bod person yn gymwys yn gwarantu y dyrannir llety iddynt. Penderfynir faint o flaenoriaeth y bydd ymgeisydd yn ei gael gan y cynllun blaenoriaethu, a'r galw/faint o dai cymdeithasol sydd ar gael o fewn y dosbarth.
Gyda golwg ar flaenoriaethu, rhaid i gynllun dyrannu roi "ffafriaeth resymol"
i gategorïau penodol o bobl. Dyma nhw:
Gall y cynllun roi ffafriaeth ychwanegol i bobl yn y categorïau uchod y teimlir bod ganddynt anghenion tai brys.
Mae llawer o gynghorau wedi llunio systemau cymhleth yn seiliedig ar bwyntiau i bennu pa mor ddwys yw anghenion tai'r ymgeisydd. Fel arfer, maent yn dyrannu'r tai sydd ar gael i'r rheiny ar y gofrestr sydd â'r nifer fwyaf o bwyntiau.
Fodd bynnag, mae rhai cynghorau yn defnyddio cynlluniau
"bandio". Dan system o'r fath caiff ymgeiswyr eu grwpio i "fandiau"
sy'n adlewyrchu gwahanol lefelau o'r angen am dai, gyda'r ymgeiswyr o fewn y grwpiau hyn yn cael eu blaenoriaethu yn ôl amser aros.
Fel rheol gyffredinol, bydd nifer y bandiau o fewn y system yn dibynnu ar y galw am dai yn yr ardal ac ar system blaenoriaethu ymgeiswyr y cynlluniau dyrannu.
Mae rhai cynghorau yn gweithredu cynlluniau gosod ar sail dewis. Bydd cynlluniau gosod ar sail dewis yn caniatáu i bobl wneud cais am lety sy'n cael ei hysbysebu'n agored gan y cyngor / landlord cymdeithasol cofrestredig, er enghraifft, mewn papur newydd lleol neu ar wefan.
Caiff ymgeiswyr weld yr amrywiaeth eang o eiddo sydd ar gael a gwneud cais am unrhyw un o'r cartref y cânt eu paru â hwy. Yr un gyda'r flaenoriaeth uchaf yn ôl y cynllun fydd y cynigydd llwyddiannus. Bydd cynghorau'n rhoi adborth sy'n helpu ymgeiswyr i asesu faint o siawns sydd ganddynt o fod yn llwyddiannus yn y dyfodol.
Mae'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) wedi gosod nod i'r holl gynghorau fabwysiadu cynllun gosod ar sail dewis erbyn 2010.
Mae'r drefn yn wahanol ymhob ardal, ond mae pob cyngor yn dilyn rheolau penodol. Bydd pob cais yn cael ei ystyried, cyhyd â'ch bod wedi dilyn y drefn ymgeisio'n gywir.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. Gallwch naill ai gysylltu â'r cyngor dros y ffôn neu lwytho ffurflen gais oddi ar eu gwefan - os ydynt yn cynnig y gwasanaeth hwn.
Os ydych yn cael trafferth gyda'ch cais, gallwch ofyn i'r cyngor am gymorth, er enghraifft, os yw Saesneg yn ail iaith i chi.
Mae pob cyngor yn cynhyrchu taflen sy'n esbonio'u trefn dyrannu tai a sut y gallwch ymgeisio.