Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dyrannu tai - gwybodaeth gyffredinol

Gall eich cyngor lleol ddyrannu lle i chi drwy gyfrwng tenantiaeth ddiogel gan ddefnyddio ei stoc o dai cyngor. Hefyd, gall cynghorau enwebu rhywun i fod yn denant sicr i gymdeithas dai.

Pam fod gan gynghorau gynlluniau dyrannu tai?

Rhaid i gyngor gael cynllun dyrannu sy'n gosod y blaenoriaethau a'r drefn ar gyfer dyrannu tai.

Bydd y cyngor:

  • yn rhoi ffurflen gais i unrhyw un sydd am wneud cais am dŷ
  • yn asesu a yw'r person sydd wedi gwneud cais yn gymwys i gael tŷ cymdeithasol wedi'i ddyrannu iddo
  • yn asesu anghenion tai yr ymgeisydd a'i deulu
  • yn blaenoriaethu pob cais yn ôl y meini prawf a nodir yn y cynllun dyrannu
  • yn dweud wrth bob ymgeisydd ymhle y maent o ran blaenoriaeth am dŷ

Gwybodaeth am y system draddodiadol o ddyrannu

Dan system ddyrannu draddodiadol, sydd fel arfer yn seiliedig ar bwyntiau, bydd y cyngor yn asesu anghenion tai yr ymgeisydd, yn pennu ei flaenoriaeth ac yn cynnig llety addas i'r teulu gyda'r nifer fwyaf o bwyntiau.

Gall ymgeiswyr ddatgan eu bod yn ffafrio math arbennig o eiddo neu ardal/ardaloedd lle'r hoffent fyw a bydd y cyngor yn gwneud ei orau i ystyried hyn wrth gynnig eiddo iddynt. Os cynigir llety i chi a chithau'n gwrthod, bydd hynny'n aml yn arwain at gosb, er enghraifft cael eich tynnu oddi ar y rhestr aros am gyfnod o amser.

Eiddo anodd ei osod/mynediad rhwydd

Gellir diffinio cartref yn un "anodd ei osod", lle mae tri chynnig wedi cael eu gwrthod neu os nad oes tenantiaid addas ar gael yn yr ardal leol. Bydd eich cyngor lleol yn hysbysebu eiddo sy'n anodd eu gosod gan chwilio'n ddiwyd am rywun i fyw ynddynt. Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd eisoes ar y gofrestr dai.

Gallwch gysylltu â swyddfa dai eich cyngor lleol yn uniongyrchol a gofyn iddynt am eu trefn a'u polisi dyrannu.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Blaenoriaethu

Nid yw'r ffaith bod person yn gymwys yn gwarantu y dyrannir llety iddynt. Penderfynir faint o flaenoriaeth y bydd ymgeisydd yn ei gael gan y cynllun blaenoriaethu, a'r galw/faint o dai cymdeithasol sydd ar gael o fewn y dosbarth.

Gyda golwg ar flaenoriaethu, rhaid i gynllun dyrannu roi "ffafriaeth resymol" i gategorïau penodol o bobl. Dyma nhw:

  • pobl sy'n ddigartref
  • pobl sy'n byw mewn tai anfoddhaol, gorlawn neu afiach
  • pobl sydd angen symud am resymau lles neu feddygol
  • pobl sydd angen symud i leoliad penodol yn ardal yr awdurdod, lle byddai peidio â bodloni'r angen hwnnw'n achosi caledi iddynt hwy ac i eraill

Gall y cynllun roi ffafriaeth ychwanegol i bobl yn y categorïau uchod y teimlir bod ganddynt anghenion tai brys.

Systemau pwyntiau a chynlluniau bandio

Mae llawer o gynghorau wedi llunio systemau cymhleth yn seiliedig ar bwyntiau i bennu pa mor ddwys yw anghenion tai'r ymgeisydd. Fel arfer, maent yn dyrannu'r tai sydd ar gael i'r rheiny ar y gofrestr sydd â'r nifer fwyaf o bwyntiau.

Fodd bynnag, mae rhai cynghorau yn defnyddio cynlluniau "bandio". Dan system o'r fath caiff ymgeiswyr eu grwpio i "fandiau" sy'n adlewyrchu gwahanol lefelau o'r angen am dai, gyda'r ymgeiswyr o fewn y grwpiau hyn yn cael eu blaenoriaethu yn ôl amser aros.

Fel rheol gyffredinol, bydd nifer y bandiau o fewn y system yn dibynnu ar y galw am dai yn yr ardal ac ar system blaenoriaethu ymgeiswyr y cynlluniau dyrannu.

Gosod ar sail dewis

Mae rhai cynghorau yn gweithredu cynlluniau gosod ar sail dewis. Bydd cynlluniau gosod ar sail dewis yn caniatáu i bobl wneud cais am lety sy'n cael ei hysbysebu'n agored gan y cyngor / landlord cymdeithasol cofrestredig, er enghraifft, mewn papur newydd lleol neu ar wefan.

Caiff ymgeiswyr weld yr amrywiaeth eang o eiddo sydd ar gael a gwneud cais am unrhyw un o'r cartref y cânt eu paru â hwy. Yr un gyda'r flaenoriaeth uchaf yn ôl y cynllun fydd y cynigydd llwyddiannus. Bydd cynghorau'n rhoi adborth sy'n helpu ymgeiswyr i asesu faint o siawns sydd ganddynt o fod yn llwyddiannus yn y dyfodol.

Mae'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) wedi gosod nod i'r holl gynghorau fabwysiadu cynllun gosod ar sail dewis erbyn 2010.

Sut mae gwneud cais?

Mae'r drefn yn wahanol ymhob ardal, ond mae pob cyngor yn dilyn rheolau penodol. Bydd pob cais yn cael ei ystyried, cyhyd â'ch bod wedi dilyn y drefn ymgeisio'n gywir.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. Gallwch naill ai gysylltu â'r cyngor dros y ffôn neu lwytho ffurflen gais oddi ar eu gwefan - os ydynt yn cynnig y gwasanaeth hwn.

Os ydych yn cael trafferth gyda'ch cais, gallwch ofyn i'r cyngor am gymorth, er enghraifft, os yw Saesneg yn ail iaith i chi.

Mae pob cyngor yn cynhyrchu taflen sy'n esbonio'u trefn dyrannu tai a sut y gallwch ymgeisio.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU