Bydd gan bob awdurdod lleol wahanol feini prawf ar gyfer cael mynediad i'w gofrestr tai. Yma, cewch wybod sut y gallwch wneud cais am eiddo'r cyngor.
Gallwch wneud cais i ymuno â chofrestr tai'r cyngor hyd yn oed os nad ydych yn byw yn yr ardal. Ond mae gan gynghorau hawl i roi blaenoriaeth i bobl sydd eisoes yn byw yn yr ardal, felly cysylltwch ag adran dai'r cyngor perthnasol.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Ar ôl derbyn eich cais, bydd y cyngor yn ei gydnabod a bydd eich anghenion yn cael eu hasesu yn unol â chynllun pwyntiau'r cyngor. Mae'r cynlluniau pwyntiau hyn yn amrywio o ardal i ardal, ond mae'r manylion ar gael ar gais.
Os oes gennych anghenion gofal neu iechyd arbennig, bydd y rhain yn cael eu hasesu a'u hystyried wrth flaenoriaethu eich cais. Gall hyn olygu y bydd y cyngor yn cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau bod eich anghenion penodol yn cael sylw, os oes modd.
Mae gwahanol ardaloedd yn amrywio o ran poblogrwydd a faint o dai o'r math yr ydych chi'n chwilio amdano sydd ar gael. Bydd y cyngor yn gwerthuso'ch anghenion o'ch ffurflen gais a chewch wybod faint o bwyntiau y mae eich cais wedi'i gael. Cewch wybod wedyn faint y bydd yn rhaid i chi ei ddisgwyl cyn i chi gael eich ailgartrefu gan y cyngor.
Unwaith y bydd eich cais yn cyrraedd brig y rhestr, byddwch yn cael cynnig yr eiddo priodol nesaf yn yr ardal yr ydych wedi'i dewis. Byddwch yn cael nifer benodol o ddyddiau i benderfynu a ydych am dderbyn y cynnig. Os gwrthodwch y cynnig, efallai y cynigir cartref arall i chi yn nes ymlaen, ond mae polisïau'n amrywio o gyngor i gyngor.
Dim ond nifer gyfyngedig o gartrefi sydd gan rai cynghorau ac ar hyn o bryd mae'r galw'n fwy na'r nifer sydd ar gael. Felly, dim ond y rhai mwyaf anghenus sy'n debygol o gael cymorth.