Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dyrannu cartrefi - y system bwyntiau

Rhaid i gynghorau sicrhau bod blaenoriaeth ar gyfer tai cymdeithasol yn cael ei rhoi i'r sawl sydd fwyaf eu hangen. Mae rhai cynghorau yn gwneud hyn drwy ddefnyddio system bwyntiau. Rhoddir pwyntiau yn ôl yr amgylchiadau a lefel yr angen am gartref.

Beth yw pwyntiau?

Mae'r gyfraith yn nodi bod yn rhaid rhoi 'blaenoriaeth resymol' i rai categorïau o bobl wrth ddyrannu tai. Mae'r categorïau fel a ganlyn:

  • pobl sy'n ddigartref
  • pobl sy'n byw mewn tai anfoddhaol, gorlawn neu afiach
  • pobl sydd angen symud am resymau lles neu feddygol
  • pobl sydd angen symud i leoliad penodol yn ardal yr awdurdod, lle byddai peidio â bodloni'r angen hwnnw'n achosi caledi iddynt hwy ac i eraill

Yn ogystal â hyn, gall cynghorau roi ffafriaeth ychwanegol i bobl yn y categorïau uchod y teimlir bod ganddynt anghenion tai brys. Rhaid i system bwyntiau roi ystyriaeth i'r ffactorau hyn.

Pa ffactorau eraill sy'n cael eu hystyried?

Gallai'r ffactorau eraill y gall system bwyntiau eu hystyried gynnwys :

  • preswyliaeth - ydych chi'n byw yn yr ardal lle rydych yn gwneud cais am dŷ?
  • amgylchiadau ariannol - ydych chi ar fudd-daliadau neu'n cael cyflog
  • record tenantiaeth - er enghraifft, oes gennych chi record dda neu oes gennych chi ôl-ddyledion rhent wedi cronni?
  • amser ar y gofrestr - efallai y cewch bwyntiau ychwanegol os ydych wedi bod ar y gofrestr dai am gryn amser

Gallwch ofyn i'ch cyngor am daflen sy'n nodi sut y mae'n dyrannu ei bwyntiau tai.

Mae’r system bwyntiau'n seiliedig ar eich amgylchiadau ar y pryd. Os bydd eich gofynion yn newid, er enghraifft os ydych yn disgwyl plentyn, rhaid i chi gysylltu â'ch cyngor cyn gynted ag y bo modd. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais newydd gan y byddwch yn cael eich ailasesu o bosib.

Allweddumynediad llywodraeth y DU