Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymdeithasau tenantiaid

Os ydych chi'n denant i'r cyngor neu'n denant i gymdeithas dai gallwch gymryd rhan weithredol yn y modd y mae eich cartref neu'r stad yr ydych yn byw ynddi yn cael eu rhedeg. Mae grantiau ar gael er mwyn helpu i roi hyfforddiant i chi, ac i'ch helpu i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth y gall fod eu hangen arnoch.

Cyfrannu yn y gymdeithas yr ydych yn byw ynddi

Gallai hyn gynnwys:

  • trefnu digwyddiadau neu brosiectau yn y gymuned
  • casglu rhent a thaliadau gwasanaeth
  • trefnu atgyweiriadau a chynnal a chadw
  • gwneud yn siŵr bod adeiladau'n cael eu cadw'n lân ac yn daclus

Mathau o gymdeithasau

Mae dwy brif fath o gymdeithas y gallwch eu sefydlu neu fod yn rhan ohonynt:

  • cymdeithas denantiaid neu gymdeithas breswylwyr - ymuno ag eraill i gyfleu safbwyntiau wrth eich landlord, neu i drefnu digwyddiadau
  • Cymdeithasau Rheoli Tenantiaid – ymgymryd â'r cyfrifoldeb dros reoli'ch cartref neu'r stad yr ydych yn byw ynddi o ddydd i ddydd

Sefydlu cymdeithas denantiaid

Gellir diffinio cymdeithasau tenantiaid fel grwpiau o bobl sy'n byw mewn ardal, mewn bloc o fflatiau neu mewn stryd, sy'n dod at ei gilydd er mwyn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'u tŷ neu'u hardal gyfagos gyda'u landlord, eu hawdurdod lleol ac asiantaethau perthnasol eraill sy'n gysylltiedig â'r gwaith o gynnal a chadw'r man y maent yn byw ynddo.

Mae nifer o resymau posib pam y byddwch am sefydlu cymdeithas denantiaid neu ymuno â chymdeithas o'r fath. Er enghraifft, efallai eich bod am wneud y pethau hyn:

  • cael safbwyntiau pobl eraill ar ddigwyddiadau pwysig sy'n effeithio ar bobl yn y man yr ydych yn byw ynddo
  • dod â chyd-breswylwyr neu gyd-denantiaid at ei gilydd er mwyn newid rhywbeth
  • ymgyrchu dros gyfleusterau newydd neu ymgyrchu yn erbyn rhywbeth sy'n digwydd yn eich ardal
  • trefnu digwyddiadau neu hyrwyddo ymdeimlad gwirioneddol o fod yn rhan o'r gymuned

Efallai bod cymdeithas denantiaid neu gymdeithas breswylwyr yn bodoli'n barod yn y man yr ydych yn byw ynddo. I gael gwybod mwy, cysylltwch â'ch landlord neu'ch awdurdod lleol neu edrychwch ar hysbysfyrddau o gwmpas yr ardal yr ydych yn byw ynddi.

Os nad oes cymdeithas denantiaid yn eich ardal chi, gallwch ganfod pwy sydd â diddordeb drwy drefnu diwrnod o hwyl neu weithgareddau cymunedol yn lleol, a lledu'r gair ynghylch yr hyn yr hoffai eich cymdeithas chi ei wneud yn yr ardal.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am sefydlu cymdeithas denantiaid neu gymdeithas denantiaid a phreswylwyr drwy gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth y Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS) drwy ddefnyddio'r ddolen isod. Bydd adran dai eich cyngor yn gallu eich helpu hefyd.

Os penderfynwch fod eich grŵp am gymryd yr awenau gyda rhai o'r tasgau rheoli neu bob un ohonynt, mae gwahanol gamau i fynd drwyddynt. Bydd angen i chi sefydlu Cymdeithas Rheoli Tenantiaid.

Cymdeithasau Rheoli Tenantiaid

Bydd rhai Cymdeithasau Rheoli Tenantiaid yn penderfynu ymgymryd â'r gwaith o reoli eu hardal o ddydd i ddydd tra bod eraill, efallai, yn mynd ati i reoli gwasanaeth penodol: dyletswyddau gofalu a glanhau er enghraifft. Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn cefnogi cyfranogaeth tenantiaid, a byddant yn annog ac yn cefnogi grwpiau tenantiaid. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael grant.

Bydd angen i chi gofrestru eich Cymdeithas Rheoli Tenantiaid gyda'r corff perthnasol, naill ai fel:

  • Cymdeithas Ddiwydiannol a ddarparol
  • Cwmni Cyfyngedig drwy Warant
  • Cwmni Buddiant Cymunedol

Byddwch yn gyfrifol am gynnal y gymdeithas, yn gyfrifol am gyllid ac am wneud yn siŵr bod y gymdeithas yn gweithredu'n gyfreithlon. I gael mwy o wybodaeth am eich cyfrifoldebau posib, darllenwch yr erthygl ‘Dod yn ymddiriedolwr’.

Mae digon o gymorth a chyngor ar gael am ddim i'ch helpu, ynghyd ag asiantaethau cynghori proffesiynol ac annibynnol a all roi cefnogaeth i chi wrth sefydlu a chynnal Cymdeithas Rheoli Tenantiaid. Gelwir y rhain yn 'Asiantaethau Cymeradwy' a gellir cael rhestr ohonynt gan y Gorfforaeth Dai.

Astudiaethau achos

Mae llawer o Gymdeithasau Rheoli Tenantiaid wedi trawsnewid eu stadau o fod yn llefydd nad oedd neb yn mentro iddynt i fod yn llefydd dymunol i fyw ynddynt. Dyma rai enghreifftiau o'r hyn y gellir ei gyflawni:

Bwrdd Rheoli Stad Bloomsbury, Birmingham

Mae'r Gymdeithas Rheoli Tenantiaid wedi sefydlu cynllun sy'n rhoi cyfle i breswylwyr di-waith lleol weithio ar y stad ac yn rhoi cyfleoedd hyfforddi mewn amgylchiadau gwaith go iawn. 

Tref Heath, Wolverhampton

Goruchwyliodd y gymdeithas hon y gwaith mawr o drosi modurdai a siopau gwag yn ganolfan chwaraeon - y gymdeithas sy'n rheoli'r ganolfan hefyd. Mae'r ganolfan newydd wedi dod â chyfleoedd gwaith a hamdden i breswylwyr. Mae hefyd wedi sefydlu ac wedi rhedeg caffi cymunedol o ganolfan gymunedol y cyngor nad oedd yn cael ei defnyddio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU