Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Tai cyngor - materion tenantiaeth

Mae'ch cyngor yn ymdrin ag amrediad eang o faterion sy'n ymwneud â'i denantiaid. Mae gan bob cyngor bolisi sy'n nodi sut y maent yn dyrannu eiddo ac yn trin tenantiaid. Byddant yn ymdrechu i drin pob tenant yr un fath ac ni fyddant yn gwahaniaethu yn erbyn neb.

Y Cytundeb Tenantiaeth

Wrth i rywun symud i mewn i'w tw cyngor, bydd yn derbyn copi o'r Cytundeb Tenantiaeth. Mae'r cytundeb hwn yn nodi'n glir beth yw cyfrifoldebau'r tenant ac yn amlinellu'r holl amodau. Mae'r rhain yn cyfeirio at faterion megis talu rhent, niwsans, harasio, difrod a chadw anifeiliaid anwes. Os bydd tenantiaid yn torri'r amodau neu yn gadael i eraill dorri'r amodau hynny, bydd y cyngor yn gweithredu, ac fel ateb terfynol, gall gael gorchymyn llys a fydd yn terfynu'r denantiaeth. Mae hefyd yn amlinellu dyletswyddau'r cyngor i denantiaid megis gwneud atgyweiriadau.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Anghydfodau rhwng cymdogion

Gellir datrys llawer o anghydfodau sy'n codi o ddydd i ddydd rhwng cymdogion trwy sgyrsiau cyfeillgar rhwng y cymdogion hynny heb orfod cysylltu â'r cyngor. Ond ni fydd hyn yn bosibl bob tro ac efallai y byddwch am roi gwybod i'r cyngor am ddigwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau. Mae wastad yn well ceisio delio gyda sefyllfa cyn i bethau ddechrau mynd o ddrwg i waeth. Gall eich cyngor eich helpu ac maent yn ystyried anghydfodau rhwng cymdogion ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddifrifol iawn.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Beth ydy ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys amrediad eang o broblemau ac oherwydd hynny mae llawer o bethau y gellir eu gwneud i fynd i'r afael â'r broblem. Mae gan eich cyngor, ynghyd ag asiantaethau eraill, nifer o ddulliau ar gael iddynt i sicrhau bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei atal yn gyflym. Mae rhai o'r rhain ar gael i'r cyngor fel landlord (a mathau eraill o landlordiaid gan gynnwys cymdeithasau tai) i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol pan fo hwnnw'n effeithio ar denantiaid neu'n cael ei achosi gan denantiaid.

Mae dulliau eraill ar gael i'w defnyddio i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol pwy bynnag sy'n ei achosi neu ar bwy bynnag y bydd yn effeithio. Yn achlysurol, gall gweithgarwch troseddol difrifol fod yn gysylltiedig â rhai mathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mewn achosion o'r fath, dylid hysbysu'r heddlu'n syth.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Atal ymddygiad gwrthgymdeithasol

Os oes tenantiaid cyngor yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol, gall y cyngor fynd â nhw i'r llys a gofyn am gael eu troi allan o'u cartref. Mae cytundeb tenantiaeth yn ddogfen gyfreithiol ac os torrir telerau'r cytundeb, gall y cyngor wneud cais i'r llysoedd am gael troi'r tenant allan.

Bydd eich cyngor yn gweithio'n agos iawn gyda'r heddlu i geisio lleihau nifer y digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ond maent hefyd yn dibynnu ar gydweithrediad tenantiaid a lesddeiliaid.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU