Pan roddir tŷ cyngor i rywun, dylai rywun ofyn iddynt lofnodi Cytundeb Tenantiaeth cyn symud i mewn. Mae'r Cytundeb hwn yn bwysig iawn oherwydd fe ddylai nodi llawer o fanylion yr hyn y mae'r cyngor a'r tenant yn cytuno iddo yn ystod cyfnod y denantiaeth. Gallwch ofyn am gael newid eich cytundeb isod.
Dylai'r cytundeb tenantiaeth amlinellu'r rhan fwyaf o ddyletswyddau'r cyngor i denantiaid, er enghraifft gwneud atgyweiriadau. Dylai hefyd amlinellu llawer o ddyletswyddau'r tenant i'r cyngor, megis bod rhaid talu rhent, peidio ag achosi niwsans, harasio na difrod. Ar ben hynny, dylai hefyd nodi amodau eraill mewn perthynas â'r denantiaeth, megis y rheolau ynghylch anifeiliaid anwes.
Os yw tenantiaid yn torri amodau eu Cytundeb Tenantiaeth, neu'n caniatáu i bobl eraill wneud hynny, gall y cyngor gymryd camau yn eu herbyn. Os aiff pethau i'r pen, gall y cyngor wneud cais am orchymyn meddiant gan y llys. Os bydd y llys yn gwneud gorchymyn meddiant, gallai hyn arwain at droi'r tenant allan o'r tw.
Mae'n ddigon posib y byddech yn dymuno rhannu cyfrifoldebau eich tenantiaeth gyda rhywun sy'n byw gyda chi. Fodd bynnag, dylech feddwl yn ofalus cyn dewis tenantiaeth ar y cyd oherwydd bod pob tenant unigol mewn tenantiaeth ar y cyd yn gyfrifol am yr holl oblygiadau dan y Cytundeb Tenantiaeth. Er enghraifft, mae gan bob tenant gyfrifoldeb dros y rhent, ac felly os bydd un ohonynt yn gadael, yna bydd y tenant sydd ar ôl yn gorfod ysgwyddo cyfrifoldeb dros unrhyw rent sydd heb ei dalu.
Os ydych yn siur eich bod am gael tenantiaeth ar y cyd, dylech wneud cais i adran dai eich cyngor lleol am ganiatâd i newid eich tenantiaeth. Bydd y cyngor yn ystyried eich cais ac yn rhoi gwybod i chi a ydynt yn cytuno i denantiaeth ar y cyd.
Neu, os ydych chi a pherson arall eisoes yn denantiaid ar y cyd, mae'n bosib y bydd y ddau ohonoch yn cytuno mai dim ond un ohonoch ddylai fod yn denant. Er enghraifft, gall hyn ddigwydd pan ddaw perthynas i ben a bod un partner yn cytuno i symud allan o gartref y teulu. Os felly, dylech roi gwybod i'r cyngor eich bod yn dymuno gwneud y newid hwn. Bydd rhaid i'r ddau denant gadarnhau ar ffurf ysgrifenedig eu bod yn cytuno i'r newid.
Os byddwch chi'n gadael i fyw yn rhywle arall, mae'n bosib y byddwch am drosglwyddo'ch tenantiaeth i'ch partner neu i aelod o'ch teulu sydd wedi byw gyda chi'n ddi-dor am flwyddyn o leiaf. Gelwir trosglwyddiad o'r fath yn aseiniad.
Dan amodau o'r fath, dylech wneud cais i adran dai eich cyngor lleol am gael aseinio'ch tenantiaeth. Byddan nhw'n ystyried eich cais ac yn rhoi eu penderfyniad i chi o fewn cyfnod y cytunir arno.
Fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd y cyngor yn gallu cytuno y cewch chi aseinio'ch tenantiaeth os oedd y tenant blaenorol wedi aseinio'r denantiaeth i chi.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Mae gan berson hawl i ysgwyddo tenantiaeth rhywun arall (etifeddu tenantiaeth) pan fydd tenant i'r cyngor yn marw os yw'r person hwnnw'n gymar i'r tenant, yn bartner sifil neu'n aelod arall o'r teulu sydd wedi bod yn byw'n ddi-dor gyda'r tenant yn y tw hwnnw am 12 mis o leiaf. Fodd bynnag, dan y gyfraith, dim ond unwaith y ceir etifeddu tenantiaeth cyngor. Felly, os oedd y tenant sydd wedi marw wedi etifeddu'r denantiaeth eisoes, ni fyddai'r cyngor yn gallu gadael i neb arall etifeddu'r denantiaeth honno. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal y cyngor rhag rhoi tenantiaeth newydd sbon, os mai dyna yw eu dewis.
Os oes gan denant denantiaeth ar y cyd â'i gymar/chymar neu bartner sifil, bydd ef neu hi'n dod yn unig denant os digwydd i'r cymar neu'r partner sifil farw. Gelwir hyn yn oroesiad, ac fe ystyrir bod y sawl sy'n goroesi'n etifeddu'r denantiaeth. Felly, pan fydd y cymar neu bartner sifil sydd wedi goroesi'n marw, ni fydd neb arall yn cael etifeddu'r denantiaeth. Unwaith eto, fodd bynnag, nid yw hyn yn atal cyngor rhag rhoi tenantiaeth newydd, os mai dyna yw eu dewis.
O fis Rhagfyr 2005 ymlaen bydd gan bartneriaid o'r un rhyw sydd wedi cofrestru eu perthynas fel sy'n ofynnol dan Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004, yr un hawliau ag sydd gan gymar o ran etifeddu tenantiaeth neu drosglwyddo tenantiaeth.