Mae'n bwysig talu'ch rhent yn rheolaidd pan fydd yn ddyledus a cheisio help ar unwaith os digwydd i chi gael trafferthion. Yma, cewch wybod sut y gall eich cyngor eich helpu i dalu'ch rhent os cewch chi drafferthion.
Mae sawl ffordd o dalu'ch rhent megis yn eich Swyddfa Bost leol, drwy Ddebyd Uniongyrchol, drwy siec, cerdyn Switch neu ddebyd. Efallai bod eich cyngor yn cynnig dulliau eraill o dalu hefyd.
Mae Debyd Uniongyrchol yn ffordd hawdd i chi dalu'ch rhent oherwydd bydd yr arian yn mynd o'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn awtomatig bob mis.
Mae manteision wrth dalu'ch rhent gyda Debyd Uniongyrchol. Er enghraifft,
Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu talu eich rhent cyngor ar-lein.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Gallwch dalu'ch rhent yn awr a'ch treth gyngor yn Swyddfa'r Post gan ddefnyddio cerdyn talu Swyddfa'r Post. Cewch ofyn am gerdyn talu gan eich cyngor lleol.
Os oes angen help arnoch i dalu'ch rhent, mae'n bosib bod gennych hawl i Fudd-dal Tai. Gall eich Swyddog Tai roi cyngor a chymorth i chi ynglwn â thalu'ch rhent. Pan fydd tenantiaid ar ei hôl hi gyda'r rhent, fe allan nhw daro cytundeb â'r cyngor i leihau'r dyledion. Fodd bynnag, gall cynghorau gymryd camau cyfreithiol os bydd tenantiaid yn methu â thalu eu rhent o hyd ac o hyd.
Os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch rhent, bydd y cyngor yn ceisio taro cytundeb realistig i chi ad-dalu'r swm sy'n ddyledus dros gyfnod o amser.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.