Mae pob cyngor yn gyfrifol am osod lefel y rhent y mae'n ei godi ar ei denantiaid.
Bydd cymdeithasau tai a chynghorau yn gosod rhenti tebyg ar gyfer eiddo o faint, cyflwr a lleoliad tebyg, pwy bynnag yw'r landlord. Mae gwir lefel y rhent yn cael ei bennu gan faint y mae'r cyngor angen ei wario ar wasanaethau i'w denantiaid. Mae trethi dŵr fel arfer wedi'u cynnwys yn rhenti'r cyngor tra bo taliadau gwasanaeth yn cael eu hychwanegu at renti. Ni fydd taliadau gwasanaeth yn cael eu cynnwys yn y broses ailstrwythuro rhenti gan eu bod yn benodol i bob eiddo. Bydd eich cyngor yn rhoi gwybod i chi am unrhyw daliadau ychwanegol pan fyddwch yn arwyddo eich cytundeb tenantiaeth.
Gall taliadau am wasanaethau cymunedol gynnwys costau gwres, golau, coginio a dŵr poeth yn dibynnu ar y math o dai a'u lleoliad. Mewn llety cymunedol megis cartrefi gwarchodol, bydd cyfanswm y costau am y gwasanaethau hyn fel arfer yn cael eu rhannu rhwng pob un o'r preswylwyr. Yn hytrach na chael biliau ar wahân ar gyfer y gwasanaethau hyn, yn gyffredinol, bydd y gost yn cael ei rhestru ar wahân yn eich bil rhent arferol.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Bydd eich cyngor yn talu'ch rhent i mewn i gyfrif a elwir yn 'Gyfrif Refeniw Tai' a'r arian hwn fydd yn talu am y gwasanaethau y bydd tenantiaid yn eu derbyn. Bydd hefyd yn talu am eitemau eraill megis y gost benthyca ar gyfer adeiladu'r cartrefi yn y lle cyntaf, ac ar gyfer gwella adeiladau.
Os ydy'ch cyngor neu landlord cymdeithasol cofrestredig eisiau codi'ch rhent, bydd fel arfer yn rhoi gwybod ichi mewn llythyr. Os ydych yn talu rhent yn wythnosol, dylech gael pedair wythnos o rybudd. Os ydych o'r farn fod y codiad yn y rhent yn rhy uchel, cysylltwch â'ch cyngor lleol.
Mae tenantiaethau cymdeithasau tai a ddaeth i rym cyn 15 Ionawr 1989 yn cael eu diogelu gan reolaethau 'rhent teg'. Mae hyn yn golygu bod rhaid i'r codiadau gael eu pennu gan y Gwasanaeth Rhent. Os ydych o'r farn fod y rhent yn rhy uchel, gallwch wneud cais iddynt hwy. Bydd gan y tenantiaethau eraill gyda chymdeithasau tai yr un hawliau â thenantiaid preifat.