Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Yswirio'ch cartref a'i gynnwys

Nid yw cynghorau'n gyfrifol am yswirio dodrefn neu eiddo personol tenantiaid y cyngor. Os ydych yn denant i gyngor ac yn credu bod y cyngor yn gyfrifol am niwed i chi neu ddifrod i'ch eiddo personol, efallai y gallwch wneud hawliad yswiriant.

Beth mae'r cyngor yn ei yswirio

Mae'r cyngor yn yswirio'r adeiladau y mae'n berchen arno ac felly, petai tÃf¢n yn dinistrio eiddo yn ei feddiant, byddai'r cyngor yn hawlio cost atgyweirio'r eiddo ar ei yswiriant.

Fodd bynnag, nid yw'r cyngor yn yswirio cynnwys unrhyw eiddo y mae'r tenant yn berchen arno (e.e. dodrefn, addurniadau neu welliannau). Felly, fel tenant, dylech ystyried cael yswiriant cynnwys i ddiogelu'r pethau hyn. Mae yswiriant cynnwys ar gael gan nifer o gwmnÃf¯au yswiriant a'r Llyfr FfÃf´n Melyn yn fwy na thebyg yw'r man cychwyn gorau.

Gall y cyngor hefyd roi cyngor i chi am yswiriant cynnwys petaech angen hynny. Mae llawer o gynghorau'n cynnig yswiriant cynhwysfawr i denantiaid o fewn eu Cynllun Yswiriant Cynnwys Cartref eu hunain. Os byddwch yn cymryd yswiriant dan Gynllun Yswiriant Cynnwys Cartref eich cyngor, bydd angen i chi gael ffurflen hawlio swyddogol gan y Swyddfa Dai leol. Ar Ãf´l i chi lenwi'r ffurflen, bydd angen i chi ei hanfon at Froceriaid Yswiriant y Cyngor.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd Ãf¢ chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am yswirio'ch tÃ...· cyngor.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU