Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Newidiadau i gynlluniau mudo

Mae'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, adran y llywodraeth sy'n gyfrifol am wasanaethau mudo, wedi ailsefydlu'r Cynllun Seaside and Country Homes a ohiriwyd yn sgîl terfyniad brand moveUK ym mis Ionawr 2007.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Cysylltu â thîm Seaside and Country Homes ar 08450 21 20 20

Cysylltu â thîm Seaside and Country Homes

Os oeddech chi wedi'ch cofrestru ar gyfer Cynllun Seaside and Country Homes dan moveUK, ni ddylai hyn effeithio ar eich cofrestriad, a byddwch dal yn cael eich ystyried ar gyfer symud. Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau ynghylch eich cofrestriad gallwch gysylltu â thîm Seaside and Country Homes ar 08450 21 20 20.

Bydd posib cael ffurflenni cais drwy Awdurdodau Lleol, mewn achosion lle derbynnir ceisiadau newydd. Mae cymhwysedd ar gyfer Cynllun Seaside and Country Homes wedi'i gyfyngu i deuluoedd sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn Llundain, lle mae o leiaf un ymgeisydd yn 60 oed a throsodd.

Cynllun Mudo LAWN

Os ydych chi wedi'ch cofrestru gyda'ch Cyngor lleol ar gyfer Cynllun Mudo LAWN, ni fydd y newidiadau diweddar yn effeithio ar eich sefyllfa. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'ch cais dylech drafod y rhain gyda Swyddog Cynllun Mudo LAWN a enwebwyd gan eich Cyngor Lleol.

Cynllun Homes Mobility neu Homeswap

Os bu i chi gofrestru ar gyfer Cynllun Homes Mobility neu Homeswap, nid yw'r cynlluniau hyn yn cael eu gweithredu mwyach a bydd angen i chi wneud cais newydd i wasanaethau mudo eraill os ydy'r rhain yn bodloni'ch gofynion.

Bydd dal yn bosib i chi wneud cais am symud tŷ drwy'ch landlord presennol neu'ch cyngor lleol ac efallai y bydd rhai'n cynnig gwasanaeth cydgyfnewid yn eu hardal.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynllun cydgyfnewid, ceir darparwyr eraill sy'n cynnig yr un math o wasanaethau - gellir dod o hyd i'r rhain drwy ddilyn y ddolen isod.

Efallai y byddwch hefyd yn dymuno gwneud cais am symud gyda chynllun Gosod ar sail Dewis, os yw'ch landlord presennol neu'ch cyngor lleol yn gweithredu cynllun o'r fath, neu os oes cynllun Gosod ar sail Dewis yn yr ardal y dymunwch symud iddi. I gael mwy o wybodaeth am sut mae Gosod ar sail Dewis yn gweithio, cliciwch ar y ddolen isod.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall ar Directgov

Mae'r adran Tai Cymdeithasol yn rhoi gwybodaeth a dolenni fel y gellir gwneud ceisiadau uniongyrchol am dai i gynghorau a chymdeithasau tai.

Yn ogystal â rhoi manylion am gynlluniau mudo, mae'r adran Tai Cymdeithasol yn darparu dolenni i ystod o wasanaethau eraill sy'n ymwneud â thai (e.e. Cynlluniau Prynu Tai gan gynnwys cynlluniau Perchenogaeth Cost Isel, Cymorth Prynu a Hawl i Brynu), gwasanaethau eraill a gynigir gan y Llywodraeth fel y tudalennau Chwilio am Waith sy'n gysylltiedig â'r Ganolfan Byd Gwaith ac yn cynnwys manylion am swyddi gwag ar draws y DU, ac amrywiaeth o dudalennau sy'n ymwneud â gwybodaeth leol (e.e. ysgolion, ysbytai ac amwynderau lleol

Cynllun Mudo LAWN, neu'r Cynllun Seaside and Country Homes

Os ydych chi'n byw yn Llundain a'ch bod wedi cofrestru ar Gynllun Mudo LAWN, neu'r Cynllun Seaside and Country Homes gyda moveUK (yn uniongyrchol neu drwy'ch landlord), does dim angen i chi wneud dim ar hyn o bryd. Mae'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn cynnal trafodaethau â darparwyr eraill. Am gyfnod byr, bydd Cynghorau Llundain (sy'n gweithredu ar ran holl Fwrdeistrefi Llundain er mwyn datblygu polisïau a gweithredu amrywiaeth o wasanaethau i bobl Llundain) yn darparu llinell gymorth os oes gennych ymholiadau brys ynghylch eich cais. Nid yw Cynghorau Llundain yn darparu gwasanaethau llawn a dim ond gwybodaeth gyfyngedig y gallant ei rhoi.

Y rhif ffôn yw 020 8726 6103. Bydd ar gael rhwng 10 am a 4 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU