Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Safon Cartrefi Teilwng

Rhaid i bob eiddo y mae'r cyngor yn berchen arnynt ac yn eu rheoli fodloni'r safon Cartrefi Teilwng. Er mwyn bodloni'r safon, rhaid i eiddo gael cyfleusterau sy'n rhesymol fodern, rhaid iddynt fod yn gynnes ac yn gwrthsefyll y tywydd.

Gwella safonau

Mae'r llywodraeth am weld yr holl dai cymdeithasol yn cydymffurfio â'r safon Cartrefi Teilwng erbyn 2010.

Er mwyn gwella'i stoc dai, bydd rhai cynghorau o bosib angen mwy o fuddsoddiad i helpu gyda'r gost ariannol. Dyma dri chynllun sy'n ceisio helpu cynghorau lleol:

  • trosglwyddo stoc i gymdeithas dai di-elw - sy'n gallu benthyca arian gan y banciau
  • creu Cwmni Rheoli Hyd Braich (ALMO); cwmni sy'n eiddo i gyngor
  • dod yn rhan o Gynllun Cyllid Preifat (PFI); partneriaeth rhwng y sector cyhoeddus a phreifat, gyda'r llywodraeth yn darparu'r arian

Cysylltwch â'ch cyngor neu swyddfa dai leol i ganfod pa gynllun sydd ar waith yn eich ardal chi.

Beth ellwch ei ddisgwyl ?

Bydd eich cyngor yn gwneud arolwg o'ch cartref i weld yn union pa welliannau sydd angen eu gwneud. Efallai Fod eich cartref angen cegin neu ystafell ymolchi newydd, neu efallai bod y gwaith weirio trydanol yn annigonol ac angen ei adnewyddu. Bydd rhai cartrefi angen mwy o waith nag eraill i sicrhau'u bod yn bodloni'r safon. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref am gyfnod byr wrth i'r gwaith atgyweirio fynd rhagddo.

Yn aml gall cynllun Cartrefi Teilwng gynnwys materion cymunedol ehangach megis mannau chwarae ar gyfer plant, materion parcio a safon gyffredinol yr holl fan lle rydych yn byw.

Bydd eich cyngor yn darparu manylion llawn y safon Cartrefi Teilwng a sut y bydd yn effeithio arnoch chi a'ch cartref.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am foderneiddio tai cyngor.

Allweddumynediad llywodraeth y DU