Mae'n ddigon posib y bydd tenantiaid am wneud gwelliannau i'w cartref neu ei addasu. Bydd yna adegau, hefyd, pan fydd y cyngor angen gwneud gwelliannau i gartref neu ei addasu i ddiwallu anghenion y bobl sy'n byw yno.
Mae gan bob tenant y cyngor hawl i wneud gwelliannau i'w cartref ond bydd rhaid iddynt gadarnhau gyda'r cyngor a oes angen caniatâd arnynt i wneud y gwaith penodol. Bydd angen caniatâd ysgrifenedig arnoch gan eich cyngor cyn y gallwch wneud unrhyw waith sylweddol i'ch cartref, megis adnewyddu neu addasu ffenestri, drysau neu gelfi cegin, unrhyw waith plymio neu ar y prif gyflenwad trydan, ailaddurno'r tu allan i'ch tw neu osod erial neu soser loeren. Bydd eich cytundeb tenantiaeth yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol ac enghreifftiau i chi am ba welliannau ac addasiadau y bydd rhaid i chi gael caniatâd eich cyngor lleol cyn y gallwch fwrw ymlaen â'r gwaith.
Mae'n werth cofio y gallwch, o bosib, hawlio costau gan eich cyngor am waith sylweddol penodol yr ydych wedi talu amdano. Dim ond ar ôl i'ch tenantiaeth ddod i ben y gallwch hawlio'r arian hwn.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am grantiau adnewyddu.
Os ydych chi neu rywun sy'n byw gyda chi yn anabl, a bod angen addasu'ch eiddo i'w gwneud yn haws i'r person anabl ddefnyddio'r ystafell ymolchi neu'r gegin, yna bydd rhaid i chi gysylltu â'ch cyngor lleol yn gyntaf. Dylech ofyn am gael siarad â'r adran sy'n delio gyda'r ceisiadau am Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl. Yna, gall y cyngor asesu'ch anghenion a gwneud argymhellion am ba addasiadau fyddai'n briodol.
Mae'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn hawl orfodol i helpu i dalu am ddarparu addasiadau i alluogi pobl anabl i fyw mor gyfforddus ac annibynnol â phosib yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r gwaith sy'n gymwys ar gyfer y grant yn amrywiol iawn er mwyn darparu mynediad i gyfleusterau sylfaenol yn y cartref, gan gynnwys hwyluso mynediad i mewn ac allan o'r eiddo ac oddi mewn i'r eiddo ei hun, drwy ledaenu drysau, gosod rampiau, gosod lifft grisiau a gosod cawodydd hwylus i ddefnyddwyr. Mae'r grant yn amodol ar brawf modd ac mae'n werth hyd at £30,000 yng Nghymru a £25,000 yn Lloegr.
Bydd rhaid i'r cyngor hefyd archwilio'ch cartref i benderfynu a yw'n addas ar gyfer gwneud yr addasiadau a argymhellir. Os nad yw hi'n bosib addasu eich cartref, efallai y bydd y cyngor yn rhoi cyfle i chi symud i eiddo arall sy'n fwy addas i'ch anghenion.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am addasiadau i eiddo'r cyngor.