Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwella'ch eiddo cyngor

Dan eich cytundeb tenantiaeth, bydd gennych yr hawl i wella'ch eiddo cyngor, megis gosod bath a thoiled a sinc newydd, unedau newydd yn y gegin neu adeiladu lle tân newydd.

A oes angen caniatâd arnoch?

Cyn gwneud unrhyw welliannau neu newidiadau i'ch eiddo, rhaid i chi ofyn am ganiatâd eich cyngor lleol (os rhoddir y caniatâd hwnnw, fe'i cewch trwy lythyr). Ni fydd y caniatâd yn cael ei wrthod heb reswm - dim ond petai'r gwaith y bwriedir ei wneud yn golygu cost iddyn nhw, neu'n ei gwneud hi'n anodd gosod yr eiddo yn y dyfodol, neu'n arwain at gwynion gan breswylwyr eraill.

Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd y caniatâd yn dibynnu ar amodau penodol a bydd rhaid i chi gadw at y rheiny.

Gwneud cais am ganiatâd i addasu eich tŷ cyngor

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Beth os byddwch chi'n gwneud y gwaith heb gael caniatâd?

Os byddwch chi'n gwella'ch cartref heb ganiatâd eich cyngor, fe allan nhw'ch gorfodi i newid yr eiddo yn ôl i fel yr oedd, neu i wneud mwy o waith i fodloni eu safonau. Os na wnewch chi'r gwaith hwnnw, mae'n bosib y bydd y cyngor yn penderfynu ei wneud ei hun ac yn codi arnoch chi am gost hynny.

Cyn dechrau gweithio

Cyn dechrau gwneud unrhyw waith rydych chi'n gyfrifol am gael unrhyw gymeradwyaeth cynllunio a rheoliadau adeiladu sy'n ofynnol. Rydych hefyd yn gyfrifol am unrhyw gostau sy'n berthnasol i hyn. Cofiwch fod rhaid gwneud pob gwaith bob amser gan berson cymwys sydd â'r cymwysterau iawn; er enghraifft, rhaid i weithiwr sydd wedi'i gofrestru dan y drefn CORGI wneud unrhyw waith gosod nwy. Fel arfer, rhaid i chi atgyweirio a chynnal a chadw unrhyw beth rydych chi'ch hun wedi'i osod a bydd rhaid i berson cymwys wneud y gwaith hwn hefyd. Yn ogystal â hyn, bydd gan eich cyngor yr hawl i archwilio unrhyw waith rydych chi wedi'i wneud.

Pa fath o welliannau allwch chi eu gwneud?

Dyma ambell enghraifft o'r gwelliannau y gallech chi eu gwneud gyda chaniatâd:

  • newidiadau i'r cynllun mewnol
  • estyniadau i'r adeilad
  • codi garej, cwt, neu dw gwydr
  • gosod tân nwy
  • gosod gwres canolog
  • gosod stafell molchi newydd
  • gosod unedau cegin newydd
  • gosod lle tân newydd
  • gosod socedi trydan ychwanegol
  • gosod dreif neu lain galed
  • codi ffensys a gatiau newydd

Er mwyn gofyn am ganiatâd i wneud gwaith addasu eich hun, cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Hawl i iawndal am welliannau

Allweddumynediad llywodraeth y DU