Cynllun ar gyfer tenantiaid cynghorau yw Hawl i Atgyweiriadau. Nod y cynllun yw sicrhau bod rhai diffygion bach a diffygion brys, a allai effeithio ar eich iechyd, eich diogelwch neu'ch gwarchodaeth, yn cael eu hatgyweirio'n gyflym ac yn hwylus.
Dan y cynllun hwn, bydd eich awdurdod lleol yn cytuno i gael gwaith atgyweirio penodol wedi'i wneud o fewn terfynau amser penodol. Mae'r amser yn amrywio yn dibynnu ar y math o waith atgyweirio i'w wneud. Fel arfer, po fwyaf brys yw'r gwaith atgyweirio gofynnol, byrraf yw'r amser a ganiateir ar gyfer ei wneud. Er enghraifft, os nad yw'ch toilet yn fflysio, mae gan y cyngor un diwrnod gwaith fel arfer ar gyfer dod i'w drwsio.
Os nad yw'r awdurdod yn gwneud y gwaith atgyweirio o fewn yr amser penodedig, gallwch fynnu ei fod yn cyflogi contractwr arall. Os nad yw'r ail gontractwr yn cwblhau'r gwaith mewn pryd, bydd y cyngor yn talu iawndal i chi, er y gall dynnu unrhyw arian sy'n ddyledus iddynt o'r taliad.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am atgyweirio eiddo'r cyngor.
Mae'r cynllun yn berthnasol i waith atgyweirio ar ddiffygion brys a bychan penodol sy'n debygol o effeithio ar eich iechyd neu'ch diogelwch, gyhyd ag y bo'r gwaith yn costio £250 neu lai. Gelwir y rhain yn 'atgyweiriadau cymwys'.
Mae'r atgyweiriadau cymwys yn cynnwys atgyweiriadau i'r canlynol:
Bydd gan eich cyngor restr lawn o'r atgyweiriadau sy'n dod o dan y cynllun. Gall ddweud wrthych a yw'r gwaith y mae angen ei wneud yn cael ei gynnwys yn y cynllun a faint o amser sydd ganddo i wneud y gwaith. Gall y cyngor hefyd ddweud wrthych sut mae'n delio ag atgyweiriadau nad ydynt yn dod o dan y cynllun hwn.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am ofyn am atgyweirio eiddo'r cyngor.
Dylech ddweud wrth y cyngor pa atgyweiriadau sydd angen eu gwneud. Efallai y bydd angen i'r cyngor anfon rhywun i'ch cartref i weld y broblem i ddechrau. Os bydd y broblem yn dod o dan y cynllun Hawl i Atgyweiriadau, bydd y cyngor yn dweud wrth gontractwr wneud y gwaith o fewn yr amser a ganiateir. Hefyd, bydd y cyngor yn anfon copi atoch o'r rhybudd atgyweirio y mae'n ei anfon at y contractwr. Bydd y rhybudd yn dangos i chi:
Rhaid i chi adael i'r cyngor wybod pryd y bydd rhywun gartref ar gyfer y contractwr. Dylech ofyn am weld eu ID hefyd cyn eu gadael i mewn i'ch cartref.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am atgyweirio tai cyngor mewn argyfwng y tu allan i oriau arferol.