Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth yw teledu digidol a beth yw'r manteision o'i ddefnyddio?

Ceir llawer o fanteision yn sgîl teledu digidol gan gynnwys gallu derbyn mwy o sianeli teledu a chyfleusterau rhyngweithiol arbennig a all helpu pobl ag anableddau. O 2012 ymlaen, bydd pob signal teledu'n ddigidol.

Sut mae'n gweithio?

Caiff sain a lluniau eu trosi i fformat digidol a'u cywasgu. Felly, wrth eu trosglwyddo nid ydynt yn cymryd cymaint o le â'r hen system. Mae hyn yn golygu y gellir darlledu mwy o sianeli.

Gellir defnyddio erial safonol, soser loeren neu gebl i ddarllen signalau digidol. Caiff y signalau hyn eu dehongli a'u troi'n ôl i sain a lluniau naill ai drwy gyfrwng blwch ar ben y teledu neu mewn datgodiwr sydd wedi'i osod yn eich teledu. Gelwir teledu gyda datgodiwr ynddo'n barod yn deledu digidol integredig neu iDTV.

Beth yw'r manteision o ddefnyddio teledu digidol?

Rhwng 2008 a 2012 bydd teledu yn y DU yn newid wrth i ni symud o'r system analog gyfredol i drosglwyddo signalau digidol yn unig. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi addasu eich teledu i dderbyn signalau digidol neu ni fyddwch yn derbyn sianeli teledu yn y dyfodol. Trosglwyddo i ddigidol y gelwir hyn.

Mae Teledu Digidol yn cynnig mwy o ddewis

Gallwch dderbyn mwy o sianeli yn rhad ac am ddim gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (BBC1, BBC2, ITV, S4C, Sianel 4 a Five) neu cewch ddewis talu am fwy o sianeli ac mae manteision eraill ar gael i chi megis teledu rhyngweithiol (drwy bwyso'r botwm coch fel arfer), rhestrau rhaglenni ar y sgrin a lluniau sgrin lydan. Gallwch hefyd dderbyn gwasanaethau gwybodaeth amrywiol a chyfleusterau rhyngweithiol gwahanol yn dibynnu ar sut rydych chi'n derbyn teledu digidol.

Mae Teledu Digidol yn gliriach

Yn y rhan fwyaf o achosion gall teledu digidol wella ansawdd eich llun a'ch sain.

Gellir derbyn teledu digidol mewn mwy o ffyrdd

Mae teledu digidol yn fwy hyblyg na'r hen system teledu analog oherwydd gallwch ei wylio ar gebl digidol, lloeren ddigidol, daearol digidol neu drwy fand eang/DSL.

Pa fanteision sydd i bobl gydag anableddau a phobl hŷn?

Mae teledu digidol yn cynnig gwasanaethau penodol ar gyfer gwylwyr gyda nam ar eu golwg neu ar eu clyw - megis disgrifiadau sain ac is-deitlau.

Mae'r adborth gan bobl hwn a fu'n treialu teledu digidol wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae'n dangos eu bod yn hoffi nodweddion fel y rhestrau rhaglenni electronig, sy'n rhoi gwybodaeth am raglenni, oherwydd eu bod yn hawdd i'w darllen a'u bod ar gael ar flaen eu bysedd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU