Bydd teledu yn y DU yn newid wrth i ni symud o'r system analog gyfredol i drosglwyddo signalau digidol yn unig. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi addasu eich teledu i dderbyn signalau digidol neu ni fyddwch yn derbyn sianeli teledu yn y dyfodol. Trosglwyddo i ddigidol y gelwir hyn. Bydd yn digwydd rhwng 2008 a 2012. Mae digon o amser cyn y bydd rhaid i chi newid i deledu digidol, ond mae oddeutu 66 y cant o gartrefi'r DU eisoes yn gwylio teledu digidol.
Mae angen newid y ffordd o ddarlledu sianeli teledu gan drosglwyddo o system analog i system ddigidol. Rhoddir pethau ar waith fesul rhanbarth rhwng 2008 a 2012. Pan fydd eich rhanbarth wedi newid o analog i ddigidol, bydd rhaid i chi drosi neu uwchraddio pob set deledu yr ydych chi'n ei gwylio.
Ar ôl newid drosodd, bydd gennych ddewis ychwanegol o sianeli digidol gan gynnwys BBC 3, BBC 4, ITV2, ITV3, E4, More4, CBBC, Cbeebies a BBC News 24, yn ogystal â'r sianeli rydych yn eu derbyn ar hyn o bryd (BBC1, BBC2, ITV, Channel 4, S4C a Five).
Pam fod rhaid newid?
Bydd trosglwyddo o analog i ddigidol yn golygu y bydd mwy o bobl yn gallu mwynhau manteision teledu digidol a bydd yr opsiynau ar gyfer derbyn teledu digidol yn fwy fforddiadwy. Hyd nes y bydd y broses drosglwyddo wedi gorffen, ni fydd oddeutu un o bob pedwar cartref yn y DU yn gallu derbyn yr ystod lawn o wasanaethau teledu digidol yn rhad ac am ddim drwy erial, ac nid yw un o bob pum cartref yn y DU yn gallu derbyn sianel Five drwy erial.
Bydd trosglwyddo i ddigidol yn sicrhau y bydd y dechnoleg orau ar gael i'w defnyddio. Bydd hefyd yn darparu ar gyfer gwasanaethau newydd megis teledu diffiniad uchel a darlledu i ffonau symudol.
Bydd y gwaith o drosglwyddo o analog i ddigidol yn digwydd fesul rhanbarth teledu, gan ddechrau gyda Border TV yn 2008 a gorffen yn Ulster oddeutu 2012. Dyma'r amserlen derfynol ar gyfer y newid:
|
Rhanbarth Teledu |
Dyddiad |
|---|---|
| Border |
ail hanner 2008 |
|
Gorllewin Lloegr |
hanner cyntaf 2009 |
|
HTV Cymru |
ail hanner 2009 |
|
Granada |
ail hanner 2009 |
|
HTV y Gorllewin |
hanner cyntaf 2010 |
|
Grampian |
hanner cyntaf 2010 |
|
Teledu'r Alban |
hanner cyntaf 2010 |
|
Swydd Efrog |
hanner cyntaf 2011 |
|
Anglia |
hanner cyntaf 2011 |
|
Canoldir Lloegr |
hanner cyntaf 2011 |
|
Meridian |
hanner cyntaf 2012 |
|
Carlton / LWT (Llundain) |
hanner cyntaf 2012 |
|
Tyne Tees |
ail hanner 2012 |
|
Ulster |
ail hanner 2012 |
Byddwch yn cael digon o rybudd cyn yr effeithir ar wasanaethau yn eich ardal a bydd digon o gyngor ar gael mewn amrywiol gyfryngau am beth i'w wneud - ond dylech chi ddechrau meddwl am eich opsiynau o ran teledu digidol heddiw.
Gall newid i ddigidol fod yn syml ac nid oes rhaid talu crocbris amdano. Mae nifer o ddewisiadau ar gael i lawer o gartrefi a gallant bwyso a mesur pa wasanaethau yr hoffent eu derbyn a faint fydd hynny'n ei gostio.
Gellir addasu'r rhan fwyaf o setiau teledu presennol gyda blwch digidol, ac mae'r rhai rhataf yn costio oddeutu £40. Holwch eich siop drydanol leol neu gwmni llogi teledu am ragor o wybodaeth am y cynnyrch sydd ar gael a sut i'w cysylltu. Neu, gallwch brynu teledu newydd gyda datgodiwr wedi'i osod ynddo. Gelwir y rhain yn setiau teledu digidol integredig neu iDTV.
Bydd angen erial newydd ar rhwng dau a deg y cant o gartrefi. Unwaith eto, mae digon o ddewis ar gael ar y farchnad
A fydd newid i deledu digidol yn effeithio ar drwyddedau teledu?
Os oes angen trwydded deledu arnoch heddiw, bydd angen trwydded deledu arnoch ar ôl trosglwyddo i ddigidol hefyd. Yr un fydd y gost ac ni fydd angen trwydded arall i wylio teledu digidol.
Beth fydd yn digwydd i hen setiau teledu?
Holwch eich cyngor lleol neu Recyclenow am ailgylchu a gwaredu setiau teledu nad ydych mo'u hangen. Efallai y bydd rhywun yn falch o dderbyn teledu fel rhodd, er enghraifft adran dechnoleg eich ysgol leol. Gallech hefyd roi setiau teledu y gellir eu haddasu i dderbyn teledu digidol i elusen. Os nad yw eich teledu'n gweithio ac rydych am i'r cyngor lleol ei waredu, cysylltwch â nhw er mwyn trefnu iddyn nhw gasglu'ch teledu o stepen eich drws, fel rhan o'r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus.
A fydd recordwyr fideos yn dal i weithio gyda signalau teledu digidol?
Byddwch yn dal i allu defnyddio'ch recordiwr fideo oni bai eich bod am wylio un rhaglen a recordio un arall. Os ydych am wneud hynny, bydd angen recordiwr digidol arnoch.
Mae'r dewis o recordwyr digidol (fe'u gelwir yn 'Recordwyr Fideo Personol' neu PVR) yn tyfu drwy'r amser - holwch eich siop leol am ragor o wybodaeth.
Os oes gennych fwy nag un teledu yn y tŷ a fydd rhaid addasu pob un ar gyfer digidol?
Rhaid i bob set deledu allu derbyn teledu digidol os ydych chi am eu defnyddio i wylio rhaglenni teledu. Os mai dim ond chwarae gemau cyfrifiadurol neu wylio fideos neu DVDs a wneir ar y teledu yna nid oes angen ei
Mwy o wybodaeth
Digital UK yw’r corff annibynnol, dielw sy’n cydlynu’r broses o symud gwylwyr y DU o deledu daearol i deledu digidol. Gall gynnig cymorth i ddefnyddwyr i sicrhau bod pawb yn gwybod beth i'w wneud a phryd.
Gallwch ffonio llinell wybodaeth Digital UK ar 0845 6 50 50 50 neu gael rhagor o wybodaeth gan Digital.