Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i gael mynediad i'r rhyngrwyd

Mae'r rhyngrwyd wedi dod yn rhan bwysig o'n bywydau beunyddiol wrth i bobl ei ddefnyddio'n rheolaidd i gael gafael ar wybodaeth, cyfathrebu dros yr e-bost ac i wneud busnes.

Mynediad i'r rhyngrwyd mewn llyfrgelloedd lleol

Mewn rhai llyfrgelloedd lleol ceir cyfrifiaduron gyda mynediad i'r rhyngrwyd a gallwch archebu sesiwn hanner awr neu awr ar y we. Holwch eich cyngor lleol i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn. Gallant ddweud wrthych ym mha lyfrgelloedd yn eich ardal y gallwch chi ddefnyddio'r rhyngrwyd am ddim

Ydych chi am helpu rhywun i ddechrau mynd ar-lein?

Mae llawer o bobl yn dal ar eu colled gan nad ydynt yn manteisio ar fuddiannau'r rhyngrwyd - oherwydd nad ydynt yn gwybod beth i'w wneud neu nad ydynt yn hyderus, neu os nad oes ganddynt fodd o ddefnyddio cyfrifiadur neu ffordd o gysylltu â'r rhyngrwyd.

 Os oes angen cymorth ar un o'ch ffrindiau neu aelod o'ch teulu i ddechrau arni gyda'r rhyngrwyd, dilynwch y ddolen isod i gael gwybodaeth am sut y gall canolfannau UK online helpu.

Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd

Os ydych chi am gael mynediad i'r rhyngrwyd yn eich cartref, bydd angen Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) a modem arnoch i gysylltu â'r Darparwr. Ambell waith mae Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd yn darparu dyfais a elwir yn llwybrydd (router) fel y gallwch rannu cysylltiad rhyngrwyd ar draws rhwydwaith ardal leol. Mae hyn yn golygu y gall mwy nag un cyfrifiadur yn eich tŷ ddefnyddio'r cysylltiad band eang ar yr un pryd. Caiff y dyfeisiau eu cysylltu â cheblau gyda phwynt canolog neu swits.

Lle da i ddechrau chwilio am Ddarparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd yw Cymdeithas y Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd (Internet Service Provider Association). Er mai corff gwirfoddol yw hwn, mae'r llywodraeth yn ei gydnabod oherwydd ei arbenigedd a safon ei wybodaeth. Mae pob Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd a restrir ar wefan y Gymdeithas wedi cytuno i gydymffurfio â rheolau a safonau penodol a osodwyd gan y Gymdeithas. Mae hyn yn golygu y gallwch fod yn dawel eich meddwl bod gan bob Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd a restrir ar wefan y Gymdeithas arferion busnes da.

Yn yr un modd, efallai y byddai'n syniad da gofyn i'ch ffrindiau sydd wedi cofrestru â Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd am eu barn nhw. Wedi'r cyfan allwch chi ddim curo argymhelliad gan ffrind yr ydych yn ymddiried ynddo. Os ydych chi'n mynd i chwilio am Ddarparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd ar eich pen eich hun, ceisiwch gael cymaint o wybodaeth ag sy'n bosib am yr hyn y maent yn ei gynnig.

Cyngor ar ddewis Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP)

Gwneud yn siŵr bod eich offer yn gweithio

Gwnewch yn siŵr bod gennych y cyfrifiadur a'r offer cywir a fydd yn gweithio gyda'ch dewis o Ddarparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd gan fod angen porwyr penodol ar rai Darparwyr ac nid yw pob Darparwr yn gweithio gyda Mac. Hefyd, er mwyn derbyn cysylltiad ar gyflymder uchel efallai y bydd angen modem penodol arnoch.

Beth y mae'r Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd yn ei gynnig i chi

Holwch i weld beth mae eich Darparwr yn ei gynnig ac yna penderfynwch beth yn union rydych chi ei eisiau. Meddyliwch am faint o amser y byddwch chi ar-lein, maint y ffeiliau y byddwch chi'n eu trosglwyddo a phryd fyddwch chi ar-lein fwyaf. Nid yw'n syniad da dewis darparwr ar sail pris yn unig.

Mynediad yn seiliedig ar amser

Mae mynediad yn seiliedig yn amser yn golygu y byddwch chi'n talu wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd ac efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi fisol hefyd. Fel arfer, rydych yn talu ar gyfraddau galwad leol ac mae'n bosib y cewch rai oriau am ddim bob mis.

Mynediad trwy danysgrifio

Gall cysylltu â'r rhyngrwyd yn ystod y dydd fod yn fwy drud nag ydyw gyda'r nos ac ar y penwythnos, felly dylech ystyried tariff 'nad yw'n seiliedig ar amser' os ydych chi'n bwriadu treulio llawer o amser ar-lein yn ystod y dydd. Mae tanysgrifio'n fisol ar gynllun 'nad yw'n seiliedig ar amser' hefyd yn golygu nad oes rhaid i chi boeni am eich bil ffôn am yr amser y byddwch chi ar-lein.

Band eang

Os ydych chi am ddefnyddio'r ffôn a bod ar-lein ar yr un pryd, gallwch ddewis cysylltiad band eang neu osod ail linell ffôn yn benodol ar gyfer mynediad i'r rhyngrwyd. Gyda chysylltiad band eang gallwch fod ar-lein drwy'r dydd, derbyn negeseuon e-bost yn syth, syrffio'r we'n llawer cynt, cyfnewid ffeiliau mawr a darparu cyswllt ar gyfer sawl cyfrifiadur.

Llunio'ch gwefan eich hun

Os ydych chi'n bwriadu llunio'ch gwefan eich hun, dewiswch Ddarparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd sy'n cynnig lle ar y we fel rhan o'r pecyn.

Cefnogaeth dechnegol

Holwch pa gefnogaeth dechnegol sydd ar gael a faint mae'r darparwr yn ei godi am y gwasanaeth hwn. Holwch y Darparwr beth maen nhw'n ei wneud i atal neu reoli digwyddiadau pan fo'r system yn methu.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU