Os ydych yn ceisio cael mynediad i'r rhyngrwyd gartref, mae sawl opsiwn ar gael sy'n cynnwys cysylltiadau band eang, lloeren, cebl a di-wifr. Dewch i wybod am fanteision pob gwasanaeth a sut i gael cysylltiad os ydych yn byw mewn cymuned wledig nad yw'n cael ei wasanaethu gan ddarparwr.
Mynediad deialu safonol i'r rhyngrwyd yw'r term am gysylltu â'r rhyngrwyd dros linell ffôn gan ddefnyddio modem, sydd naill yn y cyfrifiadur neu wedi'i gysylltu â'r cyfrifiadur. Gyda'r gwasanaeth deialu safonol, mae'r defnyddwyr yn disgwyl am gysylltiad deialu o'u llinell ffôn ar gyfer defnyddio'r e-bost neu'r rhyngrwyd.
Mynediad deialu safonol yw'r hyn y mae llawer o bobl yn ei gael ar hyn o bryd gan eu Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP), ond mae mwy a mwy o bobl yn cydnabod manteision cael cyswllt bang eang.
Darperir gwasanaethau rhyngrwyd band eang fel arfer drwy'r llinell ffôn safonol, ond mae signalau'r ffôn a'r rhyngrwyd wedi'u gwahanu - ac felly gallwch ddefnyddio'ch ffôn yr un pryd â'r rhyngrwyd.
Mae band eang yn rhoi mynediad cyflym i'r rhyngrwyd. Gall pecynnau sylfaenol fod ddeg gwaith yn gyflymach na chysylltiad safonol, sy'n golygu y gallwch lwytho ffeiliau mawr oddi ar we (megis ffeiliau fideo a cherddoriaeth) mewn eiliadau. Mae band eang ymlaen drwy'r amser ac felly does dim rhaid i chi aros am gysylltiad pan fyddwch eisiau defnyddio'r rhyngrwyd.
Mae dulliau eraill ar gael os nad yw band eang ADSL (Llinell Danysgrifio Ddigidol Anghymesur) ar gael yn eich ardal drwy eich llinell ffôn. Ymhlith y rhain, mae:
Cebl
Mae cwmnïau cebl yn cynnig gwasanaeth lled band uchel dros y rhwydweithiau cebl sydd eisoes ar gael. Gall modem cebl gynnig cyflymder tebyg i wasanaethau ADSL.
Lloeren
Gellir darparu mynediad band eang i'r rhyngrwyd yn eich cartref drwy loeren. Ar hyn o bryd mae dau fath o fand eang lloeren ar gael:
Mae mynediad un ffordd yn darparu cysylltiad cyflym iawn ond dim ond derbyn gwybodaeth sy'n bosibl e.e. gallwch lawrlwytho tudalennau a ffeiliau oddi ar we ond allwch chi ddim llwytho atodiadau e-bost. Os bydd angen anfon gwybodaeth yn ôl, byddai'n rhaid i chi barhau i ddefnyddio modem cebl, neu wasanaeth deialu.
Gyda'r gwasanaeth dwy ffordd gellir anfon gwybodaeth y ddwy ffordd; felly gallwch anfon ffeiliau data yn ôl hefyd yn ogystal â'u derbyn drwy eich lloeren. Fodd bynnag, mae anfon gwybodaeth yn ôl drwy'r gwasanaeth hwn yn araf ac yn ddrud.
Mantais defnyddio gwasanaethau band eang lloeren yw y gellir eu defnyddio mewn unrhyw fan.
Di-wifr
Gwneir cysylltiadau di-wifr (a elwir yn boblogaidd yn gysylltiadau wi-fi) drwy drosglwyddo data i'ch cyfrifiadur ac ohono drwy signalau radio. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig dull arall mwyfwy poblogaidd ar wahân i ADSL i gymunedau bychain.
I ddefnyddio technolegau di-wifr yn eich ardal chi, gallech sefydlu Rhwydwaith Ardal Leol Di-wifr (WLAN). Gellir adeiladu hwn drwy osod erialau ar nifer o dai, gan alluogi unrhyw un o fewn ardal benodol i dderbyn mynediad band eang i'r rhyngrwyd. Gall fod ar gyfer stryd neu bentref cyfan.
I sefydlu'r opsiwn hwn, byddai'n rhaid i chi ddod o hyd i gwmni technoleg i gydweithio ag ef, gan fod angen cryn dipyn o wybodaeth dechnegol. Byddai'n rhaid i chi ganfod hefyd faint o bobl fyddai'n fodlon cofrestru ar gyfer y gwasanaeth a beth fyddai'r costau.
Dylech gysylltu â'ch Awdurdod Datblygu Rhanbarthol lleol, a all fod yn ymwybodol o brosiectau sydd eisoes ar y gweill neu gyllid sydd ar gael o bosibl