Er bod y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn gallu cael gafael ar wasanaethau band eang, mae rhai cymunedau yn cael trafferth o hyd oherwydd eu lleoliad neu oherwydd y gost sy'n gysylltiedig â darparu'r gwasanaeth yn yr ardal honno. Dowch i wybod sut y gallwch weithio gydag eraill i ddod â band eang i'ch ardal.
Mae rhai cymunedau yn cael trafferth cael band eang oherwydd eu lleoliad (rhaid i chi fod o fewn 6km i gyfnewidfa ffôn) neu oherwydd y gost sy'n gysylltiedig â darparu'r gwasanaeth yn yr ardal honno. Gallwch ymuno fel cymuned i ddarbwyllo Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd fod galw yn yr ardal.
I gael gwybod mwy am gysylltiadau band eang, lloeren neu ddi-wifr, ewch i'r erthygl 'Gwahanol fathau o fand eang'.
Yn anffodus, gall y gwaith gymryd llawer o amser, ymdrech a chynllunio. Yn fwy na dim, mae'n gofyn bod pawb, yn cynnwys trigolion, mudiadau a busnesau lleol - yn ymgyrchu fel cymuned. Weithiau, yr ateb yw partneriaeth rhwng sawl cymuned a bod yn barod i fanteisio ar dechnoleg lloeren neu ddi-wifr.
Gellir cael mwy o wybodaeth a chyngor am sut i ddod â band eang i'ch ardal yn y daflen 'Band Eang gwledig - helpu i ddod â band eang i'ch cymuned', a gyhoeddir gan yr Adran Diwydiant a Masnach.
Daw'r astudiaethau achos canlynol o gymunedau a ddaeth â band eang i'w hardaloedd lleol.
Prosiect Gogledd Ddwyrain Cylch Caergrawnt
Sefydlwyd prosiect Gogledd Ddwyrain Cylch Caergrawnt (Carnet) gan drigolion nifer o bentrefi Swydd Caergrawnt pan welwyd eu bod yn rhy anghysbell i ASDL (Llinell Danysgrifio Ddigidol Anghymesur) na chebl.
Mae'r prosiect yn bartneriaeth arloesol gyda chwmni lleol a ddarbwyllwyd bod achos busnes dros brydlesu a rhedeg seilwaith di-wifr ar ran y pentref. Mae gan y prosiect danysgrifwyr preswyl a busnes gyda'r prisiau'n amrywio o £30 i gael mynediad. Meddai Laurie van Someren, un o sylfaenwyr Carnet: "Mae ein dull yn apelio at bobl oherwydd ei fod yn tarddu yn y gymuned yn hytrach na chael ei orfodi o'r tu allan."
Band eang di-elw
Pentref anghysbell yw Wedmore - rhy bell o gyfnewidfa i gael ADSL. Oherwydd hynny, ffurfiodd arweinwyr dinesig a busnes gwmni di-elw, 'Wireless Wedmore', i brynu a rhedeg cyswllt band eang di-wifr ar gyfer y pentref. Gyda chyngor a chymorth gan RABBIT (Remote Access Broadband Inclusion Trail), roedd band eang di-wifr ar gael o fewn 90 diwrnod am gost flynyddol o £260 yn unig. Meddai'r cyfarwyddwr Angela Vivian: "Mae cymorth cymunedol eang yn hanfodol, ond mae'r un mor bwysig gael ysgogydd - grwp bychan a fydd yn fodlon rhoi oriau o'u hamser i wneud i'r prosiect ddigwydd."