Mae prynu a gwerthu ar-lein yr un mor ddiogel ag archebu nwyddau dros y ffôn, ond dylech fod yn ymwybodol y bydd rhai pobl yn ceisio'ch darbwyllo i roi eich arian a'ch manylion personol iddynt.
Cyn i chi brynu unrhyw beth ar-lein gwnewch nodyn o gyfeiriad y cwmni rydych yn prynu ganddynt. Dylai hwn gynnwys manylion rhif ffôn a/neu ffacs - peidiwch byth â dibynnu ar gyfeiriad e-bost yn unig.
Mae gan y safleoedd hyn 'https' o flaen cyfeiriad y wefan sy'n nodi bod y cwmni wedi cael ei wirio'n annibynnol i sicrhau ei fod yn ddilys. Bydd eicon clo melyn yn ymddangos yn ffenestr y porwr i ddangos bod y broses talu'n ddiogel.
Efallai y byddwch wedi dioddef twyll ar y rhyngrwyd:
Os credwch eich bod wedi cael eich twyllo:
Mae gennych yr un hawliau wrth brynu ar-lein ac wrth brynu dros y ffôn neu drwy'r post. Gallwch gael gwybod mwy ar wefan Consumer Direct a'r llinell gymorth hon: 0845 04 05 06, neu cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor Ar Bopeth leol.
Mae'r rhyngrwyd yn rhoi ffordd hawdd o gysylltu â miloedd o bobl ar y tro i droseddwyr. Mae'r enghreifftiau'n cynnwys negeseuon e-bost yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn cynlluniau gwneud arian, neu negeseuon sy'n honni eich bod wedi ennill gwobr.
Gallwch osgoi dioddef twyll ar y rhyngrwyd:
Os bydd manylion personol megis eich cyfeiriad, rhif eich pasport a'ch Rhif Yswiriant Gwladol yn cael eu dwyn, gellir eu defnyddio i sefydlu cyfrifon ar-lein, gwneud cais am gardiau credyd a hyd yn oed i wneud cais am fudd-daliadau yn eich enw yn ddiarwybod i chi.
Efallai y bydd troseddwyr yn ceisio cael gafael ar fanylion eich cerdyn credyd drwy anfon negeseuon e-bost sydd yn ôl pob golwg yn dod oddi wrth sefydliad ag enw da ar-lein megis banc neu gwmni cerdyn credyd. Maent yn eich annog i roi manylion eich cerdyn credyd neu gyfrinair ar wefan ffug
A oes gennych ffrind neu aelod o'r teulu a hoffai fynd ar-lein, ond eu bod yn poeni am firysau, spam neu dwyll ar-lein? Gallant ddysgu sut i ddiogelu eu hunain gyda chanllaw syml 30 munud i ddiogelwch ar y rhyngrwyd myguide.
Ewch i 'Helpu rhywun i ddechrau arni ar-lein' i gael rhagor o wybodaeth am myguide.