Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sgwatwyr a phreswylwyr diawdurdod

Beth y gallwch ei wneud os ydych yn gwybod bod sgwatwyr mewn eiddo a ddylai fod yn wag, a pha gamau y gellir eu cymryd.

Eiddo gwag

Pan fydd rhywun yn sgwatio, mae'n meddiannu eiddo gwag heb ganiatâd y perchennog, yn aml heb yn wybod i'r perchennog a heb unrhyw hawl cyfreithiol i wneud hynny.

Mae eiddo gwag sy'n perthyn i'r cyngor fel arfer yn disgwyl i gael ei atgyweirio, ei ailaddurno neu ei ailosod ac mae cynghorau'n awyddus iddynt aros yn wag fel bod rhywun ar y rhestr aros yn cael cyfle i gael cartref.

Rhoi gwybod am sgwatio

Weithiau cymydog yw'r person cyntaf i wybod bod sgwatwyr yn byw mewn eiddo. Os gwelwch rywun yn torri i mewn i eiddo gwag, dylech ffonio'r heddlu'n syth ac wedyn dweud wrth eich gofalwr neu'r swyddog tai. Os gwelwch unrhyw ymddygiad amheus neu rywun sy'n ymddangos fel ei fod yn sgwatio mewn eiddo, cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Cael gwared ar sgwatwyr

Mae'r cyfreithiau ar sgwatio'n eithaf cymhleth. Mewn rhai achosion gall fod yn anodd i'r cyngor gael gwared ar rywun sy'n sgwatio, er nad dyma'r achos bob tro.

Gall fod yn sawl mis cyn y gellir gosod eiddo y mae sgwatwyr yn byw ynddo. Y rheswm yw'r amser hir y mae'n ei gymryd yn y llys i symud sgwatwyr, neu oherwydd y gwaith atgyweirio y bydd yn rhaid ei wneud i'r eiddo o bosib unwaith y bydd y sgwatwyr wedi'u troi allan.

Allweddumynediad llywodraeth y DU