Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhoi gwybod am adeiladau peryglus

Gallai adeiladau peryglus ac adeiladau adfeiliedig ddisgyn unrhyw bryd, yn enwedig dan amodau tywydd gwael, ac maent yn risg i ddiogelwch y cyhoedd - gallwch roi gwybod i'ch cyngor amdanynt.

Beth yw adeilad peryglus?

Mae adeiladau'n dioddef o broses heneiddio, sy'n gallu achosi i'r adeilad wanio. Gall adeiladau neu strwythurau fynd yn beryglus hefyd o ganlyniad i ddiffyg cynnal a chadw, tân, storm, ffrwydrad neu gerbydau'n taro yn eu herbyn.

Mae nifer o ddiffygion amrywiol a all beri i adeilad fod yn beryglus, heblaw am y difrod amlwg i'r prif adeilad. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • llechi neu deils sy'n rhydd neu'n disgyn
  • waliau neu ffensys sydd mewn perygl o ddymchwel
  • simneiau ansefydlog

Rhoi gwybod i'ch cyngor am adeilad peryglus

Rhaid rhoi gwybod i'ch cyngor am unrhyw adeilad peryglus sy'n fygythiad i ddiogelwch y cyhoedd; ymchwilir i'r adroddiadau cyn gynted ag y bydd syrfëwr ar gael. Gan amlaf, bydd y cyngor yn cysylltu â pherchennog yr adeilad ac fe'u gorfodir i gael gwared â'r perygl ar eu cost eu hunain. Bydd eich cyngor yn delio gydag unrhyw berygl uniongyrchol oni all perchennog yr adeilad wneud hynny.

Rhoi gwybod am adeilad peryglus yn eich ardal

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Os oes perygl uniongyrchol a'i fod yn fygythiad i fywyd, bydd y cyngor yn cysylltu gyda'r gwasanaethau brys i gau'r man peryglus, a threfnu i wneud gwaith brys ar yr adeilad. Gall hyn gynnwys gosod sgaffaldiau neu ategion i ddiogelu'r adeilad hyd nes y gellir trefnu i wneud gwaith parhaol, neu i gael gwared ar y perygl yn llwyr.

Allweddumynediad llywodraeth y DU