Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhoi gwybod am eiddo gwag neu adfeilion

Efallai bod tŷ neu fflat yn wag ers sawl blwyddyn gan achosi i'r eiddo fynd yn adfail.

Pam fod tai yn cael eu gadael yn wag

Efallai bod y perchennog:

  • yn yr ysbyty, mewn gofal preswyl neu mewn carchar
  • wedi marw a bod anghydfod am berchnogaeth
  • wedi marw ac nad oes modd dod o hyd i'r teulu agosaf
  • wedi cael adfeddiannu ei eiddo
  • wedi methu â thalu i drwsio'r eiddo oherwydd anawsterau ariannol
  • eisiau i'w blant ddelio â'r eiddo ar ôl iddo farw

Sut mae gwybod os yw tŷ wedi bod yn wag ers cyfnod hir

Er nad yw'n hawdd dweud yn sicr bob amser bod tŷ wedi bod yn wag am gyfnod, mae'n bosib gwneud rhagdybiaethau yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • mae trawstiau neu sgriniau metel dros ddrysau a ffenestri'r eiddo
  • ni welir neb yn mynd a dod o'r eiddo
  • gerddi yn y tu blaen a'r tu cefn wedi tyfu'n wyllt
  • sbwriel wedi'i ddympio o flaen yr eiddo neu'r tu ôl iddo
  • plâu a llygod mawr yn yr adeiladau cyfagos
  • tystiolaeth o sgwatwyr neu weithgareddau anghyfreithlon
  • golwg y tŷ, e.e. tyllau yn y to, ffenestri a drysau wedi torri

Rhoi gwybod am eiddo gwag

Os ydych chi'n gwybod am dŷ gwag neu'n berchen ar un, cysylltwch â'ch cyngor lleol i drafod sut y gallan nhw eich helpu i ailddefnyddio'r eiddo eto. Mae gan y rhan fwyaf o gynghorau swyddog eiddo gwag a'u gwaith nhw yw gweithio gyda pherchnogion i ddod o hyd i atebion i broblemau y gall tai gwag eu hachosi, megis gwneud i'r stryd edrych yn anneniadol.

Gall cynghorau lleol ddelio'n gyfreithiol ag adfeilion preifat sy'n anniogel ac yn agored i'r cyhoedd fynd iddyn nhw.

Mae adran rheoli adeiladau eich cyngor lleol yn gyfrifol am sicrhau y rhoddir sylw i adfeilion ac adeiladau anniogel y mae'r cyhoedd wedi hysbysu'r cyngor amdanyn nhw er mwyn sicrhau nad yw pobl yn yr ardal mewn unrhyw berygl o'u herwydd.

Unwaith i'r cyngor gael gwybod, bydd swyddog rheoli adeiladau yn ymweld â'r safle cyn gynted ag y bo modd i weld a oes angen cymryd camau.

Os yw'r adeilad yn adfail ac yn anniogel, yna anfonir rhybudd i'r perchennog yn rhoi 48 awr iddyn nhw ddiogelu eu hadeilad. Os na ellir dod o hyd i'r perchennog o fewn cyfnod amser rhesymol neu os yw'r adeilad yn berygl uniongyrchol i'r cyhoedd, yna bydd yr adran rheoli adeiladau yn trefnu bod yr adeilad yn cael ei wneud yn ddiogel.

Efallai y bydd eich cyngor hefyd yn ystyried rhoi gorchymyn pryniant gorfodol ar eiddo sydd wedi bod yn adfail neu'n wag am dros chwe mis.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU