Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Amddiffyn eich cartref rhag llifogydd

Gall difrod yn sgîl llifogydd fod yn ofnadwy ond mae 'na sawl ffordd y gallwch chi amddiffyn eich cartref a'ch eiddo rhag y difrod gwaethaf.

Rhai camau syml i'w cymryd

  • gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod lle mae eich switsh diffodd nwy, trydan a phrif gyflenwad dŵr o flaen llaw
  • storiwch eitemau trydanol mor uchel â phosib
  • meddyliwch am gadw eitemau personol â gwerth sentimental i fyny'r grisiau drwy'r amser, rhag ofn i chi anghofio'u symud adeg llifogydd
  • cadwch ddogfennau personol pwysig mewn bag sydd wedi'i selio, ac mewn man sy'n ddiogel rhag dŵr llif
  • symudwch eich car i dir uwch i osgoi difrod

Paratoi eich amddiffynfeydd llifogydd eich hun

Yn ystod sefyllfaoedd o argyfwng bydd eich cyngor yn darparu bagiau tywod i gymaint o breswylwyr â phosib er mwyn eu galluogi i ddiogelu eu cartrefi rhag llifogydd. Serch hynny, os yw eich cartref mewn risg uchel o lifogydd mae'n syniad da i gael eich cyflenwad eich hun o fagiau tywod. Gallwch eu prynu mewn unrhyw siop nwyddau adeiladu.

Ar hyn o bryd, mae llawer o wahanol bethau ar y farchnad y gallwch chi eu prynu i amddiffyn eich cartref rhag llifogydd. Mae modd gosod llawer o bethau ymlaen llaw, ac yna eu clipio ymlaen a'u tynnu yn ôl y galw - er enghraifft y 'bwrdd llif' neu'r gorchudd bric aer. Gallwch hefyd brynu sgert blastig i amgylchynu'ch eiddo i gyd, neu rwystrau dros dro i amddiffyn grup o eiddo.

Gall Asiantaeth yr Amgylchedd roi rhestr o amddiffynfeydd symudol ar gyfer eich cartref sydd â'r nod barcud arnynt, ynghyd â rhestr o'u cyflenwyr. Chwiliwch am y Nod Barcud gan Sefydliad Safonau Prydain (BSI) sy'n symbol ansawdd cydnabyddedig ar gyfer nwyddau a brynir.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU