Mae rhybuddion llifogydd yn eich hysbysu pan fydd llif ar fin digwydd. Nid peri panig yw'r bwriad a gan amlaf, fe gewch chi ddigon o amser i baratoi ar gyfer y llifogydd cyn iddyn nhw ddigwydd.
Gall llifogydd eich lladd, felly peidiwch â cheisio cerdded neu yrru drwy'r dur. Gall chwe modfedd o ddur sy'n llifo'n gyflym eich taro oddi ar eich traed ac mewn dwy droedfedd o ddur fe allai eich car fynd gyda'r llif. Mae'n bosib y bydd caeadau'r tyllau archwilio wedi codi a mynd gyda'r llif hefyd, ac fe all fod peryglon eraill nad oes modd i chi eu gweld.
Peidiwch byth â cheisio nofio drwy ddur sy'n llifo'n gyflym - fe allech gael eich 'sgubo i ffwrdd neu fe allai rhywbeth yn y dur eich taro chi.
Peidiwch â cherdded ar amddiffynfa fôr, ar lan afon na chroesi pont dros afon os nad oes rhaid - fe allan nhw ddymchwel os bydd y sefyllfa'n ddifrifol, neu fe allai tonnau mawr eich 'sgubo chi i ffwrdd. Gochelwch rhag cerrig a cherigos sy'n cael eu taflu gan donnau.
Ceisiwch osgoi dod i gysylltiad â dur y llif - fe all fod carthion ynddo.
Gofynnwch i'ch awdurdod lleol neu'ch awdurdod iechyd yn y lle cyntaf neu edrychwch yn y llyfr ffôn dan 'flood damage/difrod llifogydd' i weld a oes rhywun sy'n darparu deunyddiau neu offer glanhau i sychu'ch eiddo.
Cofiwch:
Gall dod yn ôl i drefn ar ôl llifogydd beri straen mawr, felly cofiwch ofalu amdanoch chi'ch hun a'ch teulu. Derbyniwch gymorth gan eich perthnasau, eich ffrindiau a'ch cymdogion. Siaradwch yn agored am eich teimladau i ryddhau'r tensiwn. Cofiwch fwyta'n iawn a chael digon o orffwys. Cymerwch bethau gan bwyll, gam ar y tro, a pheidiwch â bod ag ofn gofyn am help. Mae'n bosib y bydd eich Canolfan Cyngor ar Bopeth a mudiadau eraill yn gallu'ch helpu os ydych chi'n teimlo dan straen.