Mae'r arfordir yn nodwedd bwysig o'r Deyrnas Unedig a bydd yn chwarae rhan bwysig mewn sawl mater rhanbarthol. Os ydych yn byw gerllaw arfordir, gall eich cyngor ddarparu gwybodaeth i chi am sut y bydd yn rheoli'r risg o erydu'r arfordir.
Dylid edrych ar erydu'r arfordir fel rhan o broses hirdymor ddynamig lle mae'r arfordir naill ai'n encilio neu'n ymestyn ar y ffin rhwng y tir a'r môr. Mae hanes yn dangos i ni fod arfordir y DU wedi bod yn newid ers canrifoedd a bydd hyn yn parhau i ddigwydd yn y dyfodol.
Gallai defnyddiau a gludir o un rhan o'r arfordir gael ei ychwanegu at ran o draeth, neu ffurfio morfa heli neu draethell yn rhywle arall mewn proses barhaus o erydu a chronni. Mae'n bwysig fod y sawl sy'n gyfrifol am reoli'r risg o erydu'r arfordir yn deall y prosesau naturiol sylfaenol hyn ac yn gweithio gyda hwy cymaint â phosib.
Mae rheoli'r risg o lifogydd ac erydu'r arfordir yn gyfrifoldeb datganoledig. Yn Lloegr, gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) y mae'r cyfrifoldeb cyffredinol am y polisi. Bydd Defra'n cyllido'r rhan fwyaf o waith Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n ymwneud â llifogydd ac yn rhoi cymorthdaliadau i brosiectau unigol sy'n cael eu gweithredu gan awdurdodau lleol. Ni fydd Defra, fodd bynnag, yn adeiladu nac yn cynnal amddiffynfeydd.
Mae gan awdurdodau morwrol lleol y grym i wneud gwaith yn eu hardal i amddiffyn yr arfordir rhag erydiad; gallant hefyd ymgymryd â gwaith er mwyn amddiffyn rhag llifogydd o'r môr.
Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r prif awdurdod gweithredol sy'n gyfrifol am amddiffyn rhag llifogydd. Ganddynt hwy mae'r cyfrifoldeb o reoli'r risg o lifogydd a ddaw o'r prif afonydd a'r môr. Asiantaeth yr Amgylchedd fydd hefyd yn gyfrifol am ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a rhoi rhagolygon a rhybuddion am lifogydd.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn monitro cyflwr y môr 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Bydd y Gwasanaeth Darogan Stormydd Llanw yn darparu rhagolygon am lifogydd arfordirol, ymchwydd yn y llanw a gweithgaredd tonnau, yn ogystal â rhybuddion pan welir bod sefyllfaoedd peryglus yn datblygu, i Asiantaeth yr Amgylchedd.
Os ydych yn bryderus am lifogydd o'r môr, dylech gysylltu â Llinell Lifogydd 24 awr Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0845 988 1188, neu gallech chwilio am wybodaeth ar eu gwefan i ddechrau. Byddant yn eich cynghori pa ragofalon y dylech eu cymryd a beth fyddai'n rhaid i chi ei wneud mewn achos o argyfwng llifogydd.