Os ydych chi'n dymuno rhoi gwybod am broblem yn ymwneud â dŵr yn gorlifo ar ffyrdd, pibelli dŵr wedi byrstio a draeniau wedi blocio, dewch i gael gwybod sut mae gwneud hynny a phwy sy'n gyfrifol am y gwaith atgyweirio.
Os ydych yn dymuno rhoi gwybod am ddŵr yn gorlifo o ffordd fawr gyhoeddus, o farrau gratin, draeniau neu gylïau wedi blocio, bydd y ddolen sy'n dilyn yn caniatáu i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble cewch roi gwybod am y mater.
Weithiau, gall pyllau ymddangos ar wyneb ffordd oherwydd ei bod yn gostwng mewn mannau. Gellir osgoi'r rhain drwy lenwi tyllau ar arwyneb y ffordd. Gallech gysylltu â'ch cyngor lleol i roi gwybod iddynt am ffyrdd yn eich ardal y mae angen gwneud gwaith arnynt.
Y cwmni cyflenwi dŵr lleol sy'n gyfrifol am gyflenwad y dŵr ac am y pibelli sy'n arwain at y tap cau ar ffin eich eiddo chi, yn ogystal â'r tap cau ei hun.
Y bibell wasanaeth dŵr sy'n mynd â dŵr o'r tap cau ar ffin eich eiddo i'ch tŷ. Cyfrifoldeb perchennog y cartref neu'r landlord yw'r pibelli mewnol a'r bibell wasanaeth dŵr a byddai angen i blymwr roi sylw iddynt – darllenwch ‘Dod o hyd i blymwr’ neu edrychwch yn yr Yellow Pages, y Thompson Local neu mewn cyfeirlyfrau tebyg. Gallech hefyd deipio ‘prif bibell ddŵr wedi byrstio’ neu ‘dŵr yn gorlifo ar ffordd’ i beiriant chwilio ar y rhyngrwyd.
Cyfrifoldeb Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r prif afonydd, a gallwch eu ffonio ar 0845 933 3111. Mae'r Asiantaeth hefyd yn darparu Llinell Llifogydd, sy'n rhoi gwasanaeth cynghori a gwybodaeth 24 awr am lifogydd a rhybuddion llifogydd - ffoniwch 0845 988 1188.
Os ydych chi'n berchen ar dir eiddo wrth ymyl afon neu ‘gwrs dŵr’ arall, ystyrir eich bod yn 'berchennog glan afon'. Mae cwrs dŵr yn golygu unrhyw sianel naturiol neu artiffisial y mae dŵr yn llifo drwyddi, megis afon, nant, neu ffrwd melin. Mae gan berchnogion glan afon ddyletswydd i gadw'r cwrs dŵr yn glir rhag unrhyw rwystrau a gall y cyngor gyflwyno rhybuddion cyfreithiol yn gofyn i berchnogion ddelio â rhwystrau.
Bydd rhai o'r prif gyrsiau dŵr, sydd â risg uchel o beri llifogydd mewn eiddo os byddant yn blocio, yn cael eu harchwilio a'u cynnal a'u cadw gan gontractwr y cyngor yn rheolaidd.
Gallwch gysylltu ag adran gynllunio'ch cyngor lleol i gadarnhau a ydych yn berchennog ar lan afon ai peidio. Ceir mwy o wybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau perchnogion glan afon gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Y cwmni dŵr sy'n berchen ar y rhwydwaith o garthfosydd dŵr cyhoeddus, a hwy sy'n gyfrifol am eu rheoli. Lleolir y rhan fwyaf o garthffosydd cyhoeddus ar briffyrdd. Bydd gan y cyngor fapiau'n dangos lleoliadau'r carthffosydd a gellir gweld y rhain yn swyddfeydd y cyngor. I roi gwybod am garthffos gyhoeddus sy'n gorlifo, dylech gysylltu â'ch cyngor lleol.
Os bydd eich carthffosydd neu'ch draeniau preifat yn gorlifo, bydd angen contractwr draenio arnoch er mwyn delio â'r sefyllfa. Chwiliwch am gontractwyr yn eich ardal yn yr Yellow Pages, Thomspon Local, neu mewn cyfeirlyfrau eraill, dan y teitl 'Glanhau Draeniau a Pheipiau' (Drain and Pipe Cleaning). Os nad ydych yn siŵr ai mewn carthffos breifat ynteu garthffos gyhoeddus y mae unrhyw rwystr, cysylltwch â'r cwmni dŵr lleol. Dylent allu pennu hyn ar ôl edrych ar y safle. Os yw'r garthffos yn un breifat, ac mai chi sy'n gyfrifol amdani, gall y cwmni dŵr wneud y gwaith atgyweirio a chodi tâl arnoch am wneud unrhyw waith.
Weithiau bydd dŵr yn gorlifo ar ffordd hyd yn oed pan fydd y draeniau'n gweithio'n iawn oherwydd y canlynol:
Gall deunyddiau sy'n cael eu cario i mewn i'r draeniau gan lifogydd beri i'r draeniau flocio. Gall gridyllau draenio a barrau gratin (er enghraifft, ar y gylïau) flocio'n gyflym iawn pan fydd deunyddiau fel mwd yn cael ei adael ar y ffordd neu pan fydd llawer o ddail yn disgyn oddi ar y coed.