Os ydych mewn anghydfod gyda'ch cymdogion, ynghylch sŵn neu goeden dal o bosib, efallai y bydd angen i chi gysylltu â'ch cyngor lleol i gael help i ddatrys y broblem mewn modd ymarferol a chyfreithiol.
Y peth gorau yw ceisio datrys y broblem ar y dechrau drwy siarad â phwy bynnag sy'n gyfrifol am y sŵn. Mae hefyd yn bwysig sefydlu'r ffeithiau - gwnewch gofnod o ble mae'r sŵn yn dod, pa bryd mae'n digwydd, a beth sy'n ei achosi. Bydd rhai cynghorau lleol yn rhoi taflen cofnodi sŵn i chi nodi'r problemau.
Cysylltwch â'ch cyngor lleol (adran iechyd yr amgylchedd fydd yn delio â materion yn ymwneud â sŵn fel rheol). Byddant yn rhoi cyngor ymarferol i chi ac efallai'n awgrymu eich bod yn defnyddio gwasanaethau cyfryngu i helpu i ddatrys yr anghydfod.
Ymdrinnir â llygredd sŵn o adeiladau masnachol, diwydiannol a busnes (er enghraifft, peiriannau, tafarndai a chlybiau swnllyd) mewn ffordd digon tebyg i'r ffordd yr ymdrinnir â sŵn o adeiladau domestig.
Os ydych yn cael problemau gyda sŵn traffig neu reilffyrdd, efallai byddwch yn gymwys i gael grant ynysiad sŵn gan eich cyngor lleol. I gael gwybod mwy, darllenwch yr erthygl ar lygredd sŵn o’r adran teithio a thrafnidiaeth isod.
Sut mae'ch cyngor lleol yn delio â phroblemau sŵn parhaus
Mae asesu niwsans sŵn yn seiliedig ar y cysyniad o fod yn 'rhesymol', gan roi ystyriaeth i'r lleoliad, pa mor aml y mae'r sŵn yn digwydd ac ar faint o bobl y mae'r sŵn yn effeithio.
Os bydd y cyngor lleol yn meddwl bod y sŵn yn peri niwsans statudol, fe fyddan nhw'n cyflwyno hysbysiad gosteg i'r cymydog. Bydd hysbysiad gosteg yn nodi beth sy'n ofynnol gan eich cymydog. Er enghraifft, os mai cerddoriaeth swnllyd yw'r broblem, mae'n bosib y gofynnir iddyn nhw beidio â gwneud sŵn yn llwyr, neu chwarae'r gerddoriaeth ar adegau penodol yn unig.
Mewn rhai achosion, efallai na fydd yn rhaid i'r cyngor brofi niwsans statudol os oes gan yr adeilad drwydded adloniant cyhoeddus. Gellir gweithredu yn erbyn mannau sy'n gweithredu y tu allan i'w cytundeb trwyddedu.
Y gosb fwyaf ar gyfer methu â chydymffurfio â'r gorchymyn yw £5,000 ar gyfer adeiladau domestig a £20,000 ar gyfer adeiladau diwydiannol, masnach neu fusnes. Mewn achosion eithafol, gellir erlyn pobl am ymddygiad gwrth-gymdeithasol, os oes gan yr heddlu ddigon o dystiolaeth.
Os ydych am roi gwybod am broblem sŵn, dylech gadw cofnod o ble a phryd y mae'r sŵn yn digwydd.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Gall cyfarth cyson, nadu neu udo aflonyddu ar gymdogion a'u cythruddo.
Gallwch gwyno wrth eich cyngor lleol os oes ci yn tarfu arnoch neu'n bod yn niwsans oherwydd ei fod yn cyfarth. Adran iechyd yr amgylchedd fydd yn delio â'ch cwyn fel arfer. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael manylion.
Er mwyn cael gwybod beth i'w wneud os ydych yn anhapus â gwrych eich cymydog darllenwch 'Ymdrin ag anghydfod ynghylch gwrych uchel'. I gael gwybodaeth am Orchmynion Amddiffyn Coed darllenwch 'Gwarchod a Rheoli Coed'. Cewch wybod mwy am goed a chloddiau ar wefan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Cyn gwneud cwyn swyddogol byddai'n syniad da i chi geisio siarad â'ch cymydog am y broblem. Os yw hyn yn eich dychryn neu os byddech yn hoffi rhywfaint o gefnogaeth mae gwasanaethau cyfryngu cymunedol amrywiol ar gael a gallwch ddod o hyd iddynt ar-lein neu yn y llyfr ffôn.
Ar wefan Noise Mapping England, gallwch ddod o hyd i fapiau rhyngweithiol o ddinasoedd ac ardaloedd trefol mawr. Gallwch chwilio yn ôl cod post a gweld meysydd awyr. Hefyd gallwch lwytho mapiau o’r prif gysylltiadau trafnidiaeth rhwng dinasoedd ac ardaloedd trefol mawr.