Fe all gwrych da fod yn ffin ddelfrydol i'ch gardd, ond fe all dewis yr un anghywir beri problemau. Yma, fe gewch wybod beth y gallwch ei wneud os tybiwch chi fod gwrych ar ffin gardd yn rhy uchel.
Cyn cysylltu â'r cyngor, dylech roi cynnig ar y canlynol:
Cofiwch gadw cofnod o'r hyn rydych wedi'i wneud, er enghraifft copïau o lythyrau neu gadw dyddiadur.
Mae taflen yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol 'Over the garden hedge' yn cynghori pobl sut mae mynd at eu cymydog i ddatrys anghydfod ynghylch gwrych. Gallwch lwytho'r daflen oddi ar y we drwy glicio ar y ddolen isod.
Os nad yw hyn yn gweithio, rhowch wybod i'ch cymdogion eich bod yn bwriadu cwyno'n ffurfiol wrth y cyngor. Mynd at y cyngor yw'r cam olaf pan fydd pethau wedi mynd i'r pen os na allwch chi gytuno ar ateb â pherchennog y gwrych.
Ni all y cyngor gamu i mewn os ydych yn dadlau am wrychoedd neu goed collddail. I gael gwybod pa fath o gwynion y gall y cyngor eu hystyried, darllenwch daflen yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol - 'High Hedges: complaining to the Council'. Gallwch lwytho'r daflen oddi ar y we drwy glicio ar y ddolen isod.
Rhaid i chi dalu i'r cyngor am y gwasanaeth hwn ac fel arfer, chewch chi mo'r arian yn ôl. Bydd eich cyngor yn gallu dweud wrthych faint yw'r ffi ac a oes unrhyw ostyngiad i bobl ar incwm isel.
Rhaid talu ffi oherwydd: