Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Oriau agor 24/7 a chyfreithiau trwyddedu

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn cyflwyno mathau newydd o drwydded ac yn newid y ffordd y rheolir trwyddedau alcohol. Bwriad y Ddeddf Trwyddedu newydd yw atal mwy ar droseddu ac anrhefn, gwella diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed.

Trwyddedau Gwirodydd

Un newid mawr yw'r drwydded bersonol newydd. Cyn y gellir cyflenwi alcohol, mae'n rhaid i'r sawl sy'n gwerthu neu'n cyflenwi'r alcohol feddu ar drwydded bersonol neu wedi'i awdurdodi i gyflenwi'r alcohol gan berson â thrwydded bersonol.

Bydd y ddolen/dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am drwyddedau gwirodydd.

Trwyddedau Eiddo

Rhaid i bob eiddo a ddefnyddir i gyflenwi alcohol gael ei drwyddedu hefyd. Rhaid i geisiadau gynnwys manylion yr ymgeiswyr a manylion"goruchwyliwr dynodedig yr eiddo", ac mae'n rhaid iddo feddu ar drwydded bersonol.

Mae goruchwyliwr dynodedig yr eiddo'n gyfrifol am sicrhau bod yr eiddo'n gweithredu'n gyfreithlon ac yn cydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded. Rhaid i geisiadau gynnwys cynllun manwl o'r eiddo a threfn weithredu. Bydd angen trwydded eiddo ar gyfer un neu fwy o'r gweithgareddau canlynol:

  • gwerthu alcohol
  • cyflenwi alcohol i neu ar ran clwb neu pan gaiff ei archebu gan aelod o glwb
  • darparu bwyd neu ddiod poeth rhwng 11pm a 5am y bore canlynol
  • darparu adloniant am elw, gan gynnwys elusen, os yw'r adloniant yn cynnwys:
  • perfformiad theatrig
  • arddangosfa ffilm
  • digwyddiad chwaraeon dan do
  • paffio neu wreslo (dan do neu yn yr awyr agored)
  • cerddoriaeth fyw
  • cerddoriaeth wedi'i recordio
  • dawns
  • darparu cyfleusterau ar gyfer cyfansoddi cerddoriaeth
  • darparu cyfleusterau dawnsio

Tystysgrifau eiddo clwb

Mae'r rhain yn berthnasol i glybiau aelodau ac maent yn debyg i drwyddedau eiddo. Y prif wahaniaeth yw nad oes angen goruchwyliwr eiddo dynodedig. Bydd hyn yn dod o dan bwyllgor rheoli'r clwb.

Mae'r Ddeddf yn rhoi terfyn ar yr 'oriau a ganiateir' safonol ar gyfer gwerthu alcohol. Fel hyn mae tafarndai, clybiau, bwytai a mannau tebyg yn gallu gwneud cais am yr oriau a fydd fwyaf addas ar gyfer eu hanghenion hwy.

Rhaid hysbysebu cais am drwydded eiddo neu newid i drwydded eiddo mewn papur newydd lleol a thrwy arddangos hysbysiad ar yr adeilad. Gall unrhyw un sy'n byw neu'n berchen ar fusnes ger yr adeilad gysylltu â'r awdurdod lleol i wrthwynebu neu gefnogi'r cais.

Bydd unrhyw un na newidiodd ei hen drwydded cyn 6 Awst 2005 yn gorfod gwneud cais am drwydded newydd. Bydd rhaid i leoliadau sy'n cyflenwi alcohol, adloniant neu brydau poeth rhwng 11pm a 5am na chawsant drwydded eiddo erbyn 24 Tachwedd roi'r gorau i fasnachu.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU