Defnyddir Camerâu Cylch Cyfun yng nghanol trefi, ar rai llwybrau cludiant cyhoeddus ac mewn ardaloedd cyhoeddus eraill er mwyn diogelu eich cymuned. Gellir defnyddio lluniau Camerâu Cylch Cyfun fel tystiolaeth yn y llys ac fe allwch hefyd ofyn am gael gweld lluniau o'ch hun ar Gamerâu Cylch Cyfun.
Dim ond dan rai amgylchiadau penodol y gallwch wneud cais am gael gweld gwybodaeth a gedwir ar Gamerâu Cylch Cyfun. Fel arfer, dim ond yr Heddlu gaiff weld y lluniau a hynny ar gyfer tystiolaeth neu i helpu i fynd i'r afael â throseddu.
Serch hynny, gallwch ofyn am gael gweld lluniau o'ch hun ar Gamerâu Cylch Cyfun os ydych yn gwneud cais ysgrifenedig a bod digon o fanylion yn y cais i bennu a oes lluniau ohonoch chi wedi'u cadw ar Gamerâu Cylch Cyfun ai peidio. Mae hyn yn bosib oherwydd bod Deddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn mynnu bod rhaid i awdurdodau cyhoeddus ryddhau unrhyw ddata personol a gedwir am aelod o'r cyhoedd i'r person hwnnw.
Os oes lluniau ohonoch chi ar gadw, yna dangosir copi wedi'i olygu i chi. Caiff y lluniau eu golygu i sicrhau nad oes neb arall heblaw chi yn ymddangos ar y sgrîn ac nad oes data sy'n amherthnasol i chi yn cael ei ddangos, er enghraifft rhif cofrestru cerbyd rhywun arall.
Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael rhagor o fanylion.
Gall Camerâu Cylch Cyfun fod yn arf ar gyfer helpu i fynd i'r afael â throsedd ac anrhefn. O bryd i'w gilydd, defnyddir lluniau yn y llys fel tystiolaeth bod rhywun wedi bod mewn lle penodol neu wedi gwneud rhywbeth penodol.
Gall Camerâu Cylch Cyfun hefyd helpu i ddiogelu cymunedau drwy atal pobl rhag cyflawni trosedd, er enghraifft, ni fyddai rhywun mor barod i ladrata os ydynt yn gwybod bod yna Gamerâu Cylch Cyfun yn recordio'r hyn a wnânt.