Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Delio â phroblemau gyda draeniau

Os oes gennych chi broblem gyda draen sydd wedi blocio, weithiau gallwch gael help gan adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol.

Rhoi gwybod am ddraen sydd wedi blocio

Fel arfer, byddwch yn gwybod bod eich draen wedi blocio pan na fydd eich gwastraff yn diflannu wrth i chi dynnu tsiaen y toiled; efallai y bydd y tyllau archwilio a'r draeniau'n dechrau gorlifo hefyd. Mae'n siŵr y bydd na arogl hefyd. Mewn achosion lle mae carthffosydd yn gwasanaethu sawl eiddo, efallai na fyddwch yn gweld yr arwyddion hyn, gan mai dim ond ar yr eiddo sydd agosaf i'r rhwystr yr effeithir yn uniongyrchol. Os bydd draeniau'ch tŷ yn llifo i garthffos breifat uwch law'r rhwystr, mae'n bosib eich bod yn gydgyfrifol am gael gwared ar y rhwystr.

I gael help a chyngor am garthffosydd preifat a chyhoeddus, dylech gysylltu ag adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Systemau carthffosiaeth cyhoeddus a phreifat

Eich cwmni dŵr a charthffosiaeth lleol sy'n gyfrifol am systemau carthffosiaeth cyhoeddus.

Peipen yw carthffos breifat sy'n mynd â dŵr o fwy nag un eiddo, ond nad ydyw'n garthffos gyhoeddus. Mae pob un o'r eiddo hynny sy'n defnyddio'r garthffos honno yn gydgyfrifol amdani. Mae'r cyfrifoldeb hwnnw'n parhau hyd at y pwynt lle mae'r garthffos breifat (gan gynnwys y cysylltiad) yn ymuno â charthffos gyhoeddus. Golyga hyn yn aml fod pobl yn gyfrifol am drwsio a chynnal a chadw peipiau draen sydd o dan dir rhywun arall, megis cymydog.

Perchnogion/deiliaid eiddo sy'n defnyddio'r garthffos uwch i fyny o unrhyw rwystr neu nam sy'n gyfrifol am y rhwystrau a'r diffygion mewn carthffos breifat.

Ceir rhagor o wybodaeth am garthffosydd preifat ar wefan Defra.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU