Y cyngor lleol sy’n gyfrifol am symud cerbydau sydd wedi’u dympio, boed hynny ar dir preifat neu ar briffordd gyhoeddus, er y gallai trefn y gwasanaeth amrywio o gyngor i gyngor.
Gall eich cyngor lleol:
Mae rhai awdurdodau lleol wedi cael pwerau i gael gwared ar gerbydau sydd heb dreth yn unol â phwerau DVLA.
I roi gwybod am gerbyd sydd wedi'i ddympio, dylech gysylltu â'r cyngor lleol. Byddan nhw wedyn yn archwilio i weld a yw'r cerbyd wedi cael ei adael ac yn holi i weld a yw wedi cael ei ddwyn neu wedi bod mewn damwain. Os yw'r cerbyd wedi cael ei adael ar ffordd byddan nhw'n ei symud.
Mae gan yr heddlu hefyd bŵer i symud ar unwaith unrhyw gerbyd a adewir yn groes i orchmynion rheoli traffig lleol, neu gerbyd sy'n achosi rhwystr neu sy'n debygol o achosi perygl.
Yn Llundain, gall cynghorau symud cerbydau o'r fath hefyd. Mae gan DVLA bwerau i symud cerbydau heb dreth. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi manteisio ar y pwerau hyn ac felly'n symud cerbydau sydd heb dreth a cherbydau sydd wedi'u dympio.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Mae'n anghyfreithlon dympio cerbyd yn y stryd. Mae nifer o gynghorau lleol yn rhedeg cynllun dychwelyd neu ildio cerbyd. Gallant godi tâl am y gwasanaeth hwn.
Cysylltwch â'ch cyngor lleol er mwyn cael gwybod a ydynt yn gweithredu cynllun o'r fath. Gallwch hefyd ofyn am wybodaeth am sut i gael gwared â'ch cerbyd mewn modd diogel a chyfrifol.
Ydych chi wedi ystyried ailgylchu eich cerbyd? Gallwch gael gwybodaeth am sut i ailgylchu eich cerbyd a chwilio am eich canolfan ailgylchu agosaf drwy fynd i wefan 'European metal recycling'.