Gall coelcerthi lygru'r aer o gwmpas a chythruddo cymdogion. Dilynwch y canllawiau ar gyfer coelcerthi er mwyn osgoi achosi niwsans i bobl eraill, neu cysylltwch â'ch cyngor lleol a dod o hyd i ffyrdd eraill o gael gwared â'ch gwastraff.
Does dim cyfreithiau penodol yn rheoli'r defnydd o goelcerthi, er bod niwsans statudol dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn cynnwys "mwg, mygdarth neu nwyon a ollyngir o eiddo sy'n niweidiol i iechyd neu sy'n niwsans"
.
Os oes mwg yn tarfu arnoch, ewch at eich cymydog ac esbonio'r broblem. Efallai y byddwch yn teimlo'n annifyr ond efallai nad ydynt yn ymwybodol o'r diflastod y maent yn ei achosi a gobeithio y byddant yn fwy ystyriol yn y dyfodol. Os bydd hyn yn methu, cysylltwch ag adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol.
Mae taflen y Gymdeithas Genedlaethol dros Aer Glân a Diogelu'r Amgylchedd (NSCA) 'Pollution, Nuisance and the Law' yn esbonio'r sefyllfa'n fanylach. Os mai dim ond yn achlysurol y ceir y tân, nid yw'n debygol o gael ei ystyried yn niwsans dan y gyfraith.
Dan Ddeddf Priffyrdd 1980, mae unrhyw un sy'n cynnau tân ac yn gadael i fwg ddrifftio ar draws ffordd yn wynebu dirwy os yw'n peryglu traffig. Cysylltwch â'r heddlu yn yr achos hwn.
Mae llawer o ffyrdd eraill o gael gwared ar eich gwastraff gardd:
Os mai coelcerth yw'r opsiwn mwyaf ymarferol ar gyfer cael gwared ar wastraff gardd, dilynwch y canllawiau hyn gan y Gymdeithas Genedlaethol dros Aer Glân a Diogelu'r Amgylchedd (NCSA) er mwyn osgoi creu niwsans difrifol: