Mae cyfeiriad eiddo yn fater pwysig - rhaid i'r Heddlu, gwasanaethau brys a'r cyhoedd gael modd o gyfeirio at eiddo a dod o hyd iddo. Eich cyngor lleol yw'r awdurdod sy'n enwi a rhifo strydoedd yn eich ardal.
Ar yr amod bod rhif ar eich tŷ eisoes, yna gall perchennog yr eiddo enwi'r tŷ heb orfod cysylltu â'r cyngor. Nid oes gan gynghorau unrhyw bwerau dros enwau tai. Yr unig ganllawiau a roddant yw na ddylai perchnogion ddewis yr un enw â thŷ arall yn y cyffiniau neu enw tebyg iddo.
Gellir ychwanegu'r enw newydd at gyfeiriad post sy'n bodoli eisoes, ond ni ellir dileu'r rhif post hwnnw oddi ar y cyfeiriad. Yn yr achos yma, ni fydd enw'r eiddo yn mynd yn rhan o gyfeiriad swyddogol yr eiddo hwnnw; felly rhaid parhau i ddangos y rhif a chyfeirio ato mewn unrhyw ohebiaeth.
Ni fydd y cynghorau na'r gwasanaethau brys yn ffafrio defnyddio enwau tai yn unig oherwydd y bydd rhif yn gallu dynodi lleoliad eiddo mewn ffordd yn rhwydd. Ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol dylai rhif tŷ gael ei arddangos mewn lle amlwg fel ei fod yn hawdd i'w ddarllen.
Mewn achosion lle nad oes rhif wedi'i ddyrannu, bydd enw'r eiddo yn ffurfio rhan o'r cyfeiriad swyddogol. Yn yr achos hwn, dylai perchnogion eiddo sy'n dymuno newid enw'r eiddo wneud cais ysgrifenedig i:
Uned Cynnal a Chadw Cyfeiriadau y Post Brenhinol / Royal Mail Address Maintenance Unit
Sunderland
SR3 3XW
Rhif ffôn: 08456 045060
Ebost: addressdevelopment@royalmail.com
Dylai'r cais ddatgan eich enw llawn, cyfeiriad presenol yr eiddo yn llawn a nodi'n glir yr enw newydd a ffafrir. Yn gyntaf oll, rhaid i berchennog yr eiddo gysylltu ag Uned Cynnal a Chadw Cyfeiriadau y Post Brenhinol er mwyn gweld a yw'r enw'n foddhaol, yna rhaid i'r Uned gofrestru'r cyfeiriad newydd. Os bydd problem gyda'r enw a ddewisoch, byddant yn gofyn am enw arall.
Cyfrifoldeb perchnogion eiddo yw rhoi gwybod am unrhyw newid neu ychwanegiad swyddogol mewn cyfeiriad i bobl gyfarwydd ac i'r gwasanaethau cyngor perthnasol.
Ar achlysuron prin, bydd angen ailenwi neu ail-rifo stryd. Digwydd hyn fel arfer pan nad oes dim arall y gellir ei wneud pan fydd un o'r sefyllfaoedd canlynol yn codi:
Eich cyngor sydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod arwyddion enw stryd ar gael a'u bod wedi'u gosod mewn lleoliadau addas. Os oes gennych chi broblem gydag arwydd enw stryd yn eich ardal neu os oes nam arno, cysylltwch â'ch cyngor lleol. Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.