Yma, cewch wybod mwy am groesfannau ffordd a sut i wneud cais amdanynt, yn ogystal â chynghorion i blant am sut i groesi'r ffordd yn ddiogel ac osgoi damweiniau.
Eich cyngor lleol sy'n gyfrifol am ddarparu a chynnal a chadw croesfannau cerddwyr mewn mannau lle mae'n debygol y bydd ar bobl angen croesi ffyrdd, er enghraifft, wrth brif gyffyrdd, gerllaw siopau a'r tu allan i ysgolion.
Gallwch holi neu wneud awgrymiadau am groesfannau cerddwyr a chyfyngiadau cyflymder drwy gysylltu â'ch cyngor lleol, neu â'r cyngor lleol yn yr ardal yr ydych yn bryderus yn ei chylch.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Os byddwch yn croesi gyda phlentyn gafaelwch yn eu llaw drwy'r amser wrth i chi groesi a dysgwch hwy i beidio byth â rhedeg na chwarae'n agos i ffyrdd. Peidiwch â gadael i blentyn fynd allan ar ei ben ei hun onid ydynt yn deall sut i ddefnyddio Rheolau'r Groes Werdd. Hyd yn oed os mai dim ond chwarae y tu allan y maent, mae siawns y gallai eich plentyn redeg i'r ffordd ar ôl pêl neu degan - sicrhewch eu bod yn gwybod y dylent ofyn i oedolyn fynd i'w nôl, nes eu bod nhw'n gwybod sut mae croesi'r ffordd yn ddiogel.