Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Problemau talu eich bil Treth Gyngor

Os ydych yn ei chael yn anodd talu eich bil Treth Gyngor, mae'n bwysig iawn peidio ag anwybyddu'r broblem. Efallai y gall y cyngor eich helpu.

Beth i'w wneud os na allwch chi dalu

Rhowch wybod i'ch cyngor cyn gynted ag y tybiwch y byddwch yn cael trafferth talu'ch bil. Efallai y gallant ostwng y swm y mae'n rhaid i chi ei dalu, er enghraifft os ydych yn gymwys i gael disgownt nad oeddech yn gwybod amdano neu os byddwch yn gymwys ar gyfer Budd-dal Treth Gyngor.

Neu efallai y gallant gytuno ar amserlen wahanol ar gyfer gwneud taliadau.

Os nad ydy'ch cyngor yn gwybod eich bod yn cael trafferthion talu, efallai y bydd yn cymryd camau i gael yr arian a gallech orfod talu mwy yn y pendraw.

Colli taliadau

Os na thalwch un o randaliadau'r dreth gyngor, cewch nodyn atgoffa yn rhoi saith niwrnod i chi wneud y taliad.

Oni thalwch o fewn yr amser hwn, neu os bydd eich taliadau ar ei hôl hi eto ar ôl ail nodyn atgoffa, bydd y cyngor yn gofyn i chi dalu gweddill eich bil treth gyngor yn llawn.

Oni thalwch y swm sy'n weddill, gall y cyngor gymryd camau i adennill yr arian.

Cael cyngor

I gael cymorth a chyngor am ddim os na allwch dalu'ch bil treth gyngor, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth yn lleol.

Os ydych chi ar incwm isel

Budd-dal Treth Gyngor ac Ad-daliad Ail Oedolyn

Os ydych ar incwm isel, neu'n byw gydag oedolyn arall (nid eich partner) sydd ar incwm isel, efallai y gallwch hawlio Budd-dal Treth Gyngor neu'r Ad-daliad Ail Oedolyn. Gyda'r rhain bydd rhywfaint neu'r cyfan o'ch Treth Gyngor yn cael ei thalu i chi.

Mae'n bosib y bydd modd i chi hawlio am gyfnod sydd wedi mynd heibio os oes rheswm dilys pam nad oeddech yn gallu ei hawlio'n gynt.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU