Treth leol yw'r Dreth Gyngor a osodir gan gynghorau lleol er mwyn helpu i dalu am wasanaethau lleol megis yr heddlu a'r gwasanaeth casglu sbwriel. Mae'n berthnasol i bob eiddo domestig, gan gynnwys tai, byngalos, fflatiau, maisonettes, cartrefi symudol neu gychod preswyl, pa un a yw'r preswylydd yn berchen ar yr eiddo neu'n ei rentu.
Pan gyflwynwyd y system Dreth Gyngor, cafodd pob eiddo ei brisio a'u rhoi mewn 'band prisio'. Mae'r bandiau prisio ar gyfer cartrefi yn Lloegr yn seiliedig ar eu gwerth ar 1 Ebrill 1991, nid ar eu gwerth cyfredol. Mae'r band prisio'n pennu faint o Dreth Gyngor y bydd rhaid i chi ei thalu.
Mae'r tabl isod yn dangos y gwahanol fandiau. Oddi tano gallwch ddod o hyd i fand unrhyw eiddo unigol ar-lein.
| Band prisio Treth Gyngor | Amrediad gwerthoedd yn Lloegr |
|---|---|
| A | hyd at £40,000 |
| B | dros £40,000 a hyd at £52,000 |
| C | dros £52,000 a hyd at £68,000 |
| D | dros £68,000 a hyd at £88,000 |
| E | dros £88,000 a hyd at £120,000 |
| F | dros £120,000 a hyd at £160,000 |
| G | dros £160,000 a hyd at £320,000 |
| H | dros £320,000 |
Bydd faint o Dreth Gyngor y byddwch chi'n ei dalu'n amrywio o un band prisio i'r llall a hefyd yn ôl pob cyngor gwahanol - bydd pob un yn gosod ei gyfraddau Treth Gyngor ei hun.
Gall eich cyngor ddweud wrthych beth yw'r cyfraddau yn eich ardal chi.
Ceir un bil Treth Gyngor ar gyfer pob cartref. Fel arfer y sawl sy'n berchen ar yr eiddo ac yn byw ynddo, neu'r tenant sy'n byw yn yr eiddo, sy'n gorfod talu'r bil. Bydd cyplau priod a phartneriaid sy'n byw gyda'i gilydd ill dau'n gyfrifol am dalu'r bil.
Yn dechnegol, gelwir y sawl sy'n gorfod talu'r Dreth Gyngor yn 'berson atebol'. Y person ar frig neu agosaf at frig y rhestr ganlynol yw'r person atebol:
Allwch chi ddim bod yn 'berson atebol' os ydych o dan 18 oed.
Os ydych chi'n dal i fod yn ansicr pwy sy'n gyfrifol am dalu'r bil, gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol i gael cymorth.
Os yw eiddo'n wag, efallai y bydd y person sydd fel arfer yn gyfrifol am dalu yn cael gostyngiad neu'n cael ei eithrio rhag talu'r dreth. Gallwch ddarllen y manylion am ostyngiadau ac eithriadau yn adran 10 i 13 y daflen 'y Dreth Gyngor - arweiniad i'ch bil' (mae hon i'w gweld yn yr adran 'Mwy o ddolenni defnyddiol' ar ddiwedd yr erthygl).
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth a gwneud cais ar-lein.
Os ydych yn symud tw, rhaid i chi roi gwybod i'ch cyngor. Rhaid i chi wneud hyn fel nad ydych yn talu gormod o Dreth Gyngor ar eich hen dw ac yn talu'r swm iawn ar y tw newydd. Pan fyddwch yn symud: