Dan rai amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad Treth Gyngor - er enghraifft os yw'r eiddo'n wag, os mai dim ond un oedolyn sy'n byw yno, neu os ydych yn anabl, yn fyfyriwr, yn nyrs neu gategori arbennig arall. Os ydych chi ar incwm isel, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Treth Gyngor.
Efallai eich bod yn gymwys i hawlio sawl disgownt er mwyn lleihau eich bil.
Mae'r bil Treth Gyngor llawn yn tybio bod o leiaf dau oedolyn yn byw mewn eiddo. Os mai dim ond un oedolyn sy'n byw mewn cartref (fel eu prif gartref), mae'r Dreth Gyngor yn gostwng 25 y cant. Nid yw'r bil yn codi os oes mwy na dau oedolyn yn y cartref.
Mae rhai pobl nad ydynt yn cael eu cyfrif wrth edrych ar faint o oedolion sy'n byw yn eich cartref. Os nad yw'r cartref yn brif gartref i neb, efallai y rhoddir gostyngiad hefyd.
Gallwch ddarllen y manylion am ostyngiadau a'r bobl nad ydynt yn cael eu cyfrif yn adrannau 10 i 13 y daflen 'y Dreth Gyngor - arweiniad i'ch bil'.
Gallwch ddilyn y dolenni isod i weld pwy sy'n gymwys ac i wneud cais ar-lein. Bydd y dudalen gyrhaeddwch chi'n gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth. (Os nad yw'r gwasanaeth ar-lein ar gael eto, fe gewch fanylion cysylltu eich awdurdod lleol.)
Pan fydd angen mwy o le ar breswylydd anabl er mwyn gallu defnyddio cadair olwyn tu mewn, neu phan fydd angen ystafell ychwanegol i ddiwallu anghenion arbennig, bydd y cynllun Gostwng Band ar gyfer pobl Anabl yn rhoi gostyngiad ar eich Treth Gyngor. Bydd y gostyngiad yn cyfateb i ailfandio i'r band sydd union o dan y band a ddangosir ar y rhestr brisio.
Efallai y bydd rhai tai wedi'u heithrio rhag talu'r dreth gyngor.
Gallwch ddarllen y manylion am ba fath o dai sydd wedi'u heithrio yn adrannau 14 i 17 y daflen 'y Dreth Gyngor - arweiniad i'ch bil'.
Os ydych ar incwm isel, neu'n byw gydag oedolyn arall (nid eich partner) sydd ar incwm isel, efallai y gallwch hawlio Budd-dal Treth Gyngor neu'r Ad-daliad Ail Oedolyn. Gyda'r rhain bydd rhywfaint neu'r cyfan o'ch Treth Gyngor yn cael ei thalu i chi.