Bydd eich cyngor lleol yn darparu gwasanaeth cyfieithu i chi os oes angen cymorth arnoch gyda chyfieithiadau.
Os ydych yn ymweld â swyddfa awdurdod lleol neu os oes gennych apwyntiad i weld un o swyddogion y cyngor, gallwch ofyn am gyfieithydd. Bydd eich awdurdod yn trefnu i gyfieithydd gyfieithu ar eich cyfer, naill ai'n bersonol neu dros y ffôn. Os nad oes cyfieithydd ar gael, byddant yn trefnu apwyntiad arall i chi.
Bydd rhai pobl angen cymorth gan wasanaethau cyfieithu - bydd eich awdurdod lleol yn:
Rhaid i holl adrannau'r awdurdodau lleol ddarparu cymorth cyfieithu i'w cwsmeriaid. Darperir rhai gwasanaethau cyfieithu trwy grup cymunedol ac eraill gan gyfieithwyr a dehonglwyr proffesiynol, yn dibynnu ar amgylchiadau'r cwsmeriaid.
Bydd gwasanaeth cyfieithu'n gyfrinachol. Dim ond oedolion o'r teulu neu ffrindiau y dylech eu defnyddio fel cyfieithwyr ar ôl i'r opsiwn o gefnogaeth broffesiynol gael ei gynnig. Ni ddylid defnyddio plant byth fel dehonglwyr.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cyfieithu a dehongli, dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.