Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i gwyno am wasanaethau awdurdod lleol

Os teimlwch nad yw gwasanaethau'r cyngor yn cael eu darparu'n briodol, gallwch gwyno'n swyddogol i'ch awdurdod lleol.

Gwneud cwyn ffurfiol

Mae eich awdurdod lleol yn croesawu adborth am safon y gwasanaeth a ddarpara. Fel hyn, gallant ddysgu oddi wrth gamgymeriadau a gwella gwasanaethau.

Os oes gennych bryder neu awgrym am wasanaeth, ysgrifennwch neu siaradwch ag aelod o staff neu reolwr gwasanaeth. Rhestrir y wybodaeth gyswllt ar gyfer hyn, a gwasanaethau eraill y cyngor, ar wefan eich awdurdod lleol neu yn y llyfr ffôn.

Os nad ydych yn hapus gyda'ch ateb

Fel arfer, bydd rheolwr gwasanaeth yn anfon ateb ysgrifenedig o fewn nifer benodol o ddyddiau gwaith i dderbyn eich cwyn.

Os ydych yn dal i fod yn anhapus ar ôl hynny, gallwch gysylltu â swyddog cwynion eich awdurdod. Bydd y swyddog cwynion yn cadarnhau ei bod wedi derbyn eich cwyn ac, ar ôl ymchwilio i'r mater gyda'r adran dan sylw, byddant yn anfon ateb ysgrifenedig atoch.

Bydd eich awdurdod lleol yn ymroddedig i ymateb i guyn o fewn nifer benodol o ddiwrnodau. Eto, mae amgylchiadau lleol yn amrywio rhywfaint a dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol am fanylion llawn.

Rhoi sylw pellach i'ch cwyn

Mae'r Ombwdsmon Llywodraeth Leol yn ymchwilio i gwynion am gynghorau lleol. Mae'n annibynnol ar lywodraeth ganolog a lleol felly mae'r archwilwyr yn ddiduedd.

Gallwch wneud cwyn i'ch ombwdsmon yn uniongyrchol ar unrhyw adeg, ond ni fyddant fel arfer yn ystyried eich cwyn hyd nes bod trefn gwyno'ch awdurdod lleol wedi edrych ar y mater. Gallwch gysylltu â Llinell Gyngor yr ombwdsmon ar 0845 602 1983 am gymorth a help cyffredinol cyn cyflwyno'ch cwyn. Gallwch wneud cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig, dros yr e-bost, drwy'r ffacs ac ar-lein.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU