Os nad oes gennych ddigon o le ar ôl neu os nad oes gennych chi ardd, mae rhentu rhandir yn un ffordd o gael tir i dyfu'ch ffrwythau, eich blodau a'ch llysiau'ch hun. Beth am gael gwybod mwy am fanteision rhandir, y gwahanol fathau o randiroedd a beth y gallwch ddisgwyl ei gael?
Dyma rai o'r manteision a gewch chi o gael rhandir:
Cysylltwch â'ch cyngor lleol i holi ble mae safleoedd y rhandiroedd agosaf. Bydd y cyngor naill ai'n neilltuo llain o dir i chi neu'n rhoi eich enw ar y rhestr aros. Os ydych chi'n meddwl bod rhandir cyfan yn rhy fawr (oddeutu 250 metr sgwâr), gofynnwch iddyn nhw a gewch chi rentu hanner llain neu ei rannu gyda ffrind.
Bydd statws eich rhandir yn effeithio ar eich hawliau. Ceir tri math o randir:
Os bydd awdurdod rhandiroedd yn dymuno gwerthu safle rhandiroedd statudol, rhaid iddo gael caniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol, rhaid iddo fodloni amodau penodol a rhaid iddo fod wedi ymgynghori â deiliaid y lleiniau.
Os bydd y cais yn llwyddiannus, rhaid i'r awdurdod rhandiroedd ddarparu safle arall.
Os bydd awdurdod rhandiroedd yn terfynu tenantiaeth, bydd gan ddeilydd y llain yr hawl i gael iawndal.
Os mai rhandir dros dro sydd gennych neu os yw ar dir preifat, yna, nid oes rhaid cael caniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol ond fel arfer bydd rhaid i'r awdurdod rhandiroedd roi 12 mis o rybudd i chi adael.
Bydd y cyfleusterau'n amrywio, ond mae ambell beth sylfaenol y dylech fel arfer ddisgwyl eu gweld ar unrhyw safle.
Bydd yr awdurdod rhandaliadau'n penderfynu faint fydd y rhent blynyddol gan ystyried cost rheoli'r safle, yr anghenion lleol ac unrhyw amgylchiadau arbennig.
Fel arfer, telir y rhent ymlaen llaw: anfonir manylion yn y cytundeb tenantiaeth ac os na fyddwch chi'n talu'r rhent, fe allech golli'ch tenantiaeth. Gallech fod yn gymwys i gael gostyngiad.
Os na fyddwch chi'n hapus gyda'r costau, dylech godi'r peth gyda'r awdurdod rhandaliadau. Mae'n bosib y bydd y Gymdeithas Genedlaethol i Arddwyr Rhandaliadau a Garddwyr Oriau Hamdden (NSALG) yn gallu'ch cynghori.