Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth allwch chi ei wneud gyda'ch darn o dir

Mae rhentu rhandir yn ffordd dda o gael tir ychwanegol i dyfu ffrwythau, llysiau a blodau. Bydd y cytundeb tenantiaeth yn nodi beth gewch chi a beth na chewch chi ei wneud gyda'ch tir.

Beth fydd y cytundeb tenantiaeth yn ei gynnwys

Bydd y cytundeb tenantiaeth yn nodi beth gewch chi ac na chewch chi ei wneud ar eich rhandir a dylech gadw copi i chi gyfeirio ato yn y dyfodol. Llofnodir y cytundeb gan yr awdurdod/cymdeithas rhandiroedd a deiliad y tir. Fel arfer, les blwyddyn a roddir ar randir.

Gan amlaf, bydd y cytundeb yn nodi sut y gellir terfynu'r denantiaeth. Rhaid i'r awdurdod/cymdeithas rhandiroedd roi 12 mis o rybudd i ddeiliad y les a ddaw i ben ar 6 Ebrill neu cyn hynny neu ar ôl 29 Medi mewn unrhyw flwyddyn. Caiff yr awdurdod rhandiroedd hefyd roi mis o rybudd i rywun adael os nad yw'r rhent wedi'i dalu neu os nad yw'r tenant yn cydymffurfio â thelerau'r denantiaeth.

Bydd rhaid i chi gydymffurfio â'r amodau sylfaenol hyn:

  • dylid cadw plant ac anifeiliaid anwes dan reolaeth

  • rhaid cadw'ch rhandir yn lân a'i gynnal a'i gadw fel ei fod mewn cyflwr da

  • chi sy'n gyfrifol am gadw'r mân lwybrau'n glir

  • dylid defnyddio'ch llain o dir yn bennaf ar gyfer tyfu llysiau a ffrwythau

Beth alla'i ei wneud gyda fy narn o dir?

Tyfu ffrwythau a llysiau yw prif ddiben rhandir. Mae'n bosib hefyd y cewch chi wneud y canlynol, ond edrychwch ar eich cytundeb a'r rheoliadau eraill gan eich awdurdod/cymdeithas rhandiroedd:

  • cadw ieir a chwningod
  • cadw da byw penodol eraill - holwch hefyd am gyfarwyddyd gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb wrth Anifeiliaid (RSPCA)
  • cadw gwenyn - os ydych chi'n ystyried cadw gwenyn, dylech hefyd ystyried ymuno â Chymdeithas Gwenynwyr Prydain a chodi yswiriant
  • codi cwt os nad oes un wedi'i ddarparu
  • gwneud pwll dur, ond cofiwch y gall pyllau fod yn beryglus i blant a bod rhaid i'r awdurdod rhandiroedd osod amodau ar adeiladu pyllau

Os byddwch chi'n defnyddio chwynladdwyr a phlaladdwyr, dylech ddilyn yr holl gyfarwyddiadau diogelwch. Mae'n bosib y bydd eich awdurdod rhandiroedd yn gallu'ch cynghori am sut i ddefnyddio chwynladdwyr a phlaladdwyr mewn ffordd ddiogel ac am arddio organig. Mae cyngor ar gael hefyd gan y Gyfarwyddiaeth Diogelwch Plaladdwyr.

Mae compostio'n ffordd effeithiol o ailgylchu gwastraff organig a hefyd yn garedig wrth yr amgylchedd. Holwch eich awdurdod rhandiroedd, y Ganolfan Dechnoleg Amgen neu Gymdeithas Ymchwil Henry Doubleday am gompostio

Beth na alla'i wneud gyda fy narn o dir?

  • ei ddefnyddio ar gyfer busnes neu’i is-osod
  • gadael i’r darn o dir ddirywio
  • defnyddio systemau chwistrellu dros nos neu pan nad ydych yno
  • mae coelcerthi una’i wedi gwahardd neu’n destun i amodau llym
  • defnyddio weiren bigog mewn ffordd beryglus

Allweddumynediad llywodraeth y DU